Cyfeiriadau a throeon
Mae’n bosib defnyddio cyfeiriadau a throeon i esbonio siwrnai.
Cyfeiriadau yw cyfarwyddiadau fel ‘tri cham ymlaen’ neu ‘un cam yn ôl’. Rhain sy’n dweud wrthyt ti pa mor bell i fynd.
Gall troeon fod yn glocwedd (troi yr un ffordd â bysedd y cloc) neu’n wrthglocwedd (y ffordd groes i fysedd y cloc).
Gelli di wneud chwarter tro, hanner tro neu dro cyfan – byddai hwnnw’n mynd â ti’n ôl i ble cychwynnaist ti.
More on Siâp, safle a symud
Find out more by working through a topic
- count12 of 13
- count13 of 13
- count1 of 13
- count2 of 13