鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga drawsfudo siâp ar bapur sgwariau yn llorweddol neu’n fertigol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • un gweithgaredd

Learning focus

Learn to translate a shape on squared paper horizontally or vertically.

This lesson includes:

  • one video
  • one activity
Llinell / Line

Trawsffurfiadau / Transformations

Mae gwahanol fathau o drawsffurfiadau.

  • Cylchdroi yw pan gaiff siâp ei droi o amgylch pwynt.
  • Adlewyrchu yw pan gaiff siâp ei adlewyrchu mewn llinell ddrych.
  • Trawsfudo yw pan gaiff siâp ei symud bellter penodol o’i safle gwreiddiol.

There are different kinds of transformation.

  • Rotation is when the shape is turned around a point.
  • Reflection is when a shape is reflected in a mirror line.
  • Translation is when a shape is moved a certain distance from its original position.
Llinell / Line

Fideo / Video

Sut i drawsffurfio siapiau trwy drawsfudiad, adlewyrchiad neu gylchdroi.

How to transform shapes using translation, reflection or rotation.

Nodiadau i rieni

  • Os yw siâp yn cael ei drawsffurfio, mae ei olwg yn newid. Gallwn newid golwg y siâp mewn sawl ffordd - trawsfudo, adlewyrchu a chylchdroi.
  • Trawsfudo yw pan mae siâp yn llithro o un lle i’r llall heb droi (i fyny, i lawr neu ochr i ochr).
  • Mae adlewyrchiad yn debyg i ddefnyddio drych. Mae’r adlewyrchiad yr un hyd o’r llinell ddrych ag y mae o’r siâp gwreiddiol.
  • Cylchdroi yw symud siâp yn glocwedd neu’n wrthglocwedd o gwmpas pwynt. Enw’r pwynt yma yw canol cylchdro. Rhaid i’r siâp aros yr un pellter o’r pwynt yr holl ffordd o gwmpas.

Notes for parents

  • If a shape is transformed, its appearance changes. We can transform a shape in different ways - translation, reflection and rotation.
  • Translation is when a shape is moved from one position to another without turning (up, down or from side to side).
  • Reflection is when a shape is reflected in a mirror line. The reflection is the same distance from the mirror line as it is from the original shape.
  • Rotation is when a shape is turned clockwise or anti-clockwise around a point. This point is called the centre of rotation. The shape has to stay the same distance from the point all the way around.
Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Labela’r trawsffurfiadau.

Label the transformations.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU