Â鶹ԼÅÄ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio lluniau, symbolau, dilyniant o lythrennau a geiriau cyfarwydd i gyfleu ystyr.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn to use pictures, symbols, letters in sequence and familiar words to communicate meaning.

This lesson includes:

  • one video
  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo

Fesul awr, mae tri chloc yn canu am eu diwrnod.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • dysgu cân newydd
  • siarad am yr amser mewn brawddegau syml
  • adnabod oriau ar gloc digidol 12 awr
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Darllena’r brawddegau isod a thynna lun i gyfateb â’r amser ym mhob brawddeg.

Enghraifft

Mae hi’n 1 o’r gloch.

  1. Mae hi’n 8 o’r gloch.
  2. Mae hi’n 2 o’r gloch.
  3. Mae hi’n 12 o’r gloch.
  4. Mae hi’n 6 o’r gloch.
  5. Mae hi’n 10 o’r gloch.
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Edrycha ar y clociau isod ac ysgrifenna’r amser ar gyfer pob un mewn brawddeg lawn.

Enghraifft

Mae hi'n 10 o'r gloch.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Edrycha ar y tabl. Mae’n amserlen diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.

GweithgareddAmser
Brecwast7 o’r gloch
Nofio10 o’r gloch
Cinio12 o’r gloch
Merlota2 o’r gloch
Swper6 o’r gloch

Defnyddia’r tabl er mwyn ateb y cwestiynau isod. Cofia ysgrifennu mewn brawddegau llawn gyda phrif lythyren ar ddechrau brawddeg ac atalnod llawn ar y diwedd.

Enghraifft

Faint o’r gloch mae brecwast?

Mae brecwast am saith o’r gloch.

  1. Beth sy’n digwydd am 12 o’r gloch?
  2. Faint o’r gloch mae swper?
  3. Beth sy’n digwydd am 2 o’r gloch?
  4. Faint o’r gloch mae nofio?
  5. Beth sy’n digwydd am 7 o’r gloch?

Video

Every hour, three clocks sing about their day.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • learn a new song
  • talk about the time in simple sentences
  • read hours on a 12-hour digital clock
Llinell / Line

Activity 1

Read the sentences below and draw a picture to match the time in each sentence.

Example

Mae hi’n 1 o’r gloch.

(It is 1 o’clock.)

  1. Mae hi’n 8 o’r gloch. (It is 8 o'clock.)
  2. Mae hi’n 2 o’r gloch. (It is 2 o'clock.)
  3. Mae hi’n 12 o’r gloch. (It is 12 o'clock.)
  4. Mae hi’n 6 o’r gloch. (It is 6 o'clock.)
  5. Mae hi’n 10 o’r gloch. (It is 10 o'clock.)
Llinell / Line

Activity 2

Look at the clocks below and write the time for each one in a full sentence.

Example

Mae hi'n 10 o'r gloch. (It is 10 o'clock.)

Llinell / Line

Activity 3

Look at the table. It is a daily timetable at Llangrannog Urdd Camp.

Gweithgaredd (Activity)Amser (Time)
Brecwast (breakfast)7 o’r gloch (7 o'clock)
Nofio (swimming)10 o’r gloch (10 o'clock)
°ä¾±²Ô¾±´ÇÌý(lunch)12 o’r gloch (12 o'clock)
Merlota (pony trekking)2 o’r gloch (2 o'clock)
Swper (dinner/supper)6 o’r gloch (6 o'clock)

Use the table to answer the questions below. Remember to write in full sentences, with a capital letter to begin the sentence and a full stop at the end.

Example

Faint o’r gloch mae brecwast? (What time is breakfast?)

Mae brecwast am saith o’r gloch. (Breakfast is at seven o’clock.)

  1. Beth sy’n digwydd am 12 o’r gloch? *(What happens at 12 o’clock?) *
  2. Faint o’r gloch mae swper? (What time is supper?)
  3. Beth sy’n digwydd am 2 o’r gloch? (What happens at 2 o’clock?)
  4. Faint o’r gloch mae nofio? (What time is swimming?)
  5. Beth sy’n digwydd am 7 o’r gloch? (What happens at 7 o’clock?)

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU