鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i gyfrannu i drafodaeth grŵp, gan rannu syniadau a gwybodaeth.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn how to contribute to group discussion, sharing ideas and information.

This lesson includes:

  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Trefnu dy drafodaeth

Er mwyn cael trefn ar ddadl ffurfiol, y peth cyntaf i'w wneud yw dewis cadeirydd.

Beth yw rôl cadeirydd?

Mae cadeirydd yn cadw trefn ar y drafodaeth ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael cyfle i siarad ac i ddweud eu barn.

Mae'n rhaid iddo fe/iddi hi hefyd fod yn berson teg, yn gwneud yn siŵr fod dwy ochr y ddadl yn cael eu clywed.

Weithiau, ar ddiwedd y drafodaeth, bydd y cadeirydd yn dod i benderfyniad neu i gasgliad penodol.

Gwaith paratoi

Mae'n bwysig i roi trefn ar beth sydd gyda ti i'w ddweud er mwyn cyflwyno dy ddadl yn drefnus.

Mae defnyddio trefnolion mewn trafodaeth yn bwysig.

Trefnolion yw geiriau neu rifau sy’n rhoi trefn arbennig, ee cyntaf, ail, trydydd, pedwerydd. Dyma rai enghreifftiau da:

Yn gyntaf…
Yn ail…
Yn drydydd…
Yn olaf…

Trwy wneud hyn, mae aelodau eraill y drafodaeth yn gallu dilyn trefn bendant gan ymateb i wahanol safbwyntiau, er enghraifft:

  • Roedd yr ail bwynt yn un diddorol, sef…
  • Rydw i'n anghytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf oherwydd…

Dwy ochr y geiniog

Mae gan bawb farn wahanol am destunau trafod ac yn aml yn cael trafferth i gytuno. Felly mae'n bwysig fod pawb yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl.

Fe alli di feddwl amdano fel edrych ar ddwy ochr y geiniog.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Mae disgyblion yn y dosbarth wedi bod yn trafod a yw hi’n greulon i gadw anifeiliaid mewn sŵ ac a ddylai’r anifeiliaid gael eu rhyddhau.

Darllena’r sylwadau isod gan y disgyblion.

  1. Mae sŵ yn greulon ac yn achosi straen ar anifeiliaid.
  2. Rwy’n hoff iawn o fynd i’r sŵ. Mae’n gyfle i weld anifeiliaid egsotig – anifeiliaid fel llewod na fyddwn i’n gallu gweld yng Nghymru fel arfer.
  3. Nid yw sŵ yn awyrgylch naturiol i anifeiliaid.
  4. Mae’r sŵ yn bwysig o ran edrych ar ôl anifeiliaid sydd mewn perygl.
  5. Mae’r sŵ yn gwneud gwaith ymchwil pwysig am yr anifeiliaid sy’n rhoi cyfle i ni ddysgu mwy amdanynt.
  6. Mae’r sŵ yn edrych ar ôl yr anifeiliaid yn ofalus iawn.
  7. Mae pobl yn mynd i’r sŵ am gyfnod byr – un diwrnod mewn blwyddyn efallai i gael adloniant – ond mae’r anifeiliaid yn gorfod aros yno ddydd a nos.
  8. Pwrpas y sŵ yw gwneud arian ar gyfer y perchennog.
  • Oes dwy ochr i’r stori?
  • Ydy'r plant wedi trafod pwyntiau o blaid ac yn erbyn cadw anifeiliaid mewn sŵ?

.

Llinell / Line

Mae'n bwysig i wrando ar gyfraniad pob aelod o'r grŵp.

Mae'n rhaid edrych ar y pwyntiau o blaid ac yn erbyn cyn dod i benderfyniad ar y pwnc dan sylw. Bydd angen gwrando ac ystyried pob safbwynt cyn dod i gasgliad.

Ar ddiwedd y drafodaeth mae modd i ti wneud un o ddau beth:

  • Peidio â dod i benderfyniad (a derbyn y bydd rhai o blaid a rhai yn erbyn).
  • Cynnal pleidlais i weld faint sydd o blaid a faint sydd yn erbyn.
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Gwranda ar y drafodaeth yma gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Treganna ar wefan Radio Cymru.

Pam dathlu noson Guto Ffowc?

Ysgrifenna nodiadau wrth i ti wrando, ar ddarn o bapur neu yn ddigidol, gyda dau bennawd – o blaid ac yn erbyn.

O blaidYn erbyn
1.1.
2.2.
3.3.
4.4.
5.5.
  • Oeddet ti’n gallu gweld dwy ochr y ddadl?
  • Pwy sy’n ennill dy gefnogaeth di a pham?
  • Beth yw dy farn di am ddathlu noson Guto Ffowc?

.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Beth am fynd ati i drafod gweithgareddau Gwersyll Llangrannog gyda rhywun arall yn y tŷ?

  1. Dyma'r testun trafod:

Mae gweithgareddau gwych yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ac maen nhw'n werth pob ceiniog!

  1. Clicia wefan yr i ymchwilio'r pwnc. Beth am wneud nodiadau o blaid ac yn erbyn?

  2. Ar ôl i ti ystyried dwy ochr y stori, wyt ti o blaid neu yn erbyn y datganiad?

Organising your discussion

In order to organise a formal debate, the first thing you should do is choose a chairperson.

What is a chairperson's role?

A chairperson keeps the discussion under control and makes sure everyone has an opportunity to talk and express their opinions.

They must also be a fair person, making sure both sides of the argument are heard.

Sometimes, at the end of the discussion, the chairperson will come to a particular decision or conclusion.

Preparation

It's important to prepare what you have to say in order to present your argument in an organised way.

It’s important to use ordinals in a discussion.

Ordinals are words or numbers which indicate a certain order, eg cyntaf, ail, trydydd, pedwerydd (first, second, third, fourth). Here are some good examples:

Yn gyntaf… (󾱰ٱ…)
Yn ail… (𳦴DzԻ…)
Yn drydydd… (ճ󾱰…)
Yn olaf… (󾱲Բ…)

By doing this, others taking part in the discussion can follow a specific order when responding to different opinions, for example:

  • Roedd yr ail bwynt yn un diddorol, sef… (The second point was an interesting one, which was…)

  • Rydw i'n anghytuno'n llwyr gyda'r pwynt olaf oherwydd… - (I completely disagree with the last point because…)

Two sides of the coin

Everyone has a different opinion on discussion topics and people often find it difficult to agree. Therefore, it's important that everybody listens to both sides of the argument.

You could think of it as looking at both sides of a coin.

Llinell / Line

Activity 1

The class pupils have been discussing whether it is cruel to keep animals in a zoo and whether animals should be released.

Read the pupils' comments below.

  1. Mae sŵ yn greulon ac yn achosi straen ar anifeiliaid.
  2. Rwy’n hoff iawn o fynd i’r sŵ. Mae’n gyfle i weld anifeiliaid egsotig – anifeiliaid fel llewod na fyddwn i’n gallu gweld yng Nghymru fel arfer.
  3. Nid yw sŵ yn awyrgylch naturiol i anifeiliaid.
  4. Mae’r sŵ yn bwysig o ran edrych ar ôl anifeiliaid sydd mewn perygl.
  5. Mae’r sŵ yn gwneud gwaith ymchwil pwysig am yr anifeiliaid sy’n rhoi cyfle i ni ddysgu mwy amdanynt.
  6. Mae’r sŵ yn edrych ar ôl yr anifeiliaid yn ofalus iawn.
  7. Mae pobl yn mynd i’r sŵ am gyfnod byr – un diwrnod mewn blwyddyn efallai i gael adloniant – ond mae’r anifeiliaid yn gorfod aros yno ddydd a nos.
  8. Pwrpas y sŵ yw gwneud arian ar gyfer y perchennog.

A translation of the sentences is provided below.

  1. Zoos are cruel and cause animals stress.
  2. I love going to the zoo. It’s an opportunity to see exotic animals I wouldn’t usually be able to see in Wales, like lions.
  3. A zoo is not a natural environment for animals.
  4. Zoos are important in terms of caring for endangered animals.
  5. Zoos do important research about animals, which gives us an opportunity to learn more about them.
  6. Zoos look after animals with great care.
  7. People go to the zoo for a short period of time – perhaps one day a year for entertainment purposes – but the animals have to stay there day and night.
  8. The purpose of a zoo is to make money for the owner.
  • Are there two sides to the story?
  • Have the children discussed points in favour and against keeping animals in a zoo?

.

Llinell / Line

It’s important to listen to the contributions of everyone in the group. You must look at the points for and against before coming to a decision about the discussed topic. You must listen to and consider every viewpoint before drawing a conclusion.

At the end of the discussion, you can do one of two things:

  1. Not come to a decision (and accept that some people will be for and some will be against).
  2. Hold a vote to see how many are for and against.

Activity 2

Listen to this discussion by pupils from Ysgol Gymraeg Treganna on Radio Cymru's website.

Why celebrate Bonfire Night?

While you listen, write notes on a piece of paper or digitally, with two headers - for and against.

O blaid (For)Yn erbyn (Against)
1.1.
2.2.
3.3.
4.4.
5.5.
  • Were you able to see both sides of the argument?
  • Who has your support and why?
  • What is your opinion about celebrating Bonfire Night?

Llinell / Line

Activity 3

Why not discuss Llangrannog centre's activities with someone else in the house?

  1. Here's the discussion topic:

Mae gweithgareddau gwych yng ngwersyll yr Urdd, Llangrannog ac maen nhw'n werth pob ceiniog!

There are fantastic activities at the Urdd camp in Llangrannog and they're worth every penny!

  1. Click on the website to research the topic. What about making notes for and against?

  2. After considering both sides of the story, are you for or against the statement?

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU