鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio geirfa briodol, gan gynnwys geiriau ac ymadroddion pwnc benodol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn how to use appropriate vocabulary, including subject-specific words and phrases.

This lesson includes:

  • two activities

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â .

For an English version of this lesson, scroll below.

Beth yw dy ôl troed carbon?

Mae angen egni i wneud y pethau syml hyn.

  • Tost – gan ddefnyddio tostiwr trydan.
  • Sudd oren - wedi ei wneud gan ddefnyddio orennau o Sbaen.
  • Car – sy’n rhedeg ar danwydd ffosil.
  • Cloc larwm - sy’n defnyddio batris.
  • Cawod – defnyddir nwy, trydan neu olew i gynhesu’r dŵr.
  • Brwsh dannedd trydanol – sy’n defnyddio trydan.

Mae’r egni sydd ei angen i wneud y pethau bychain hyn yn cynhyrchu nwy o’r enw carbon deuocsid. Gelwir yn nwy ‘tŷ gwydr’ gan ei fod yn dal gwres, sy’n achosi i’r Ddaear gynhesu. Y mwyaf o garbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer, y gwaethaf yw hi i’r amgylchedd.

Mae’r cyfanswm o garbon sy’n cael ei gynhyrchu o ganlyniad i dy weithgareddau dyddiol yn cael ei adnabod fel ôl troed carbon.

Mae popeth a wnawn yn cael effaith ar yr amgylchedd.

Pe bai pawb yn gwneud newidiadau bach i’w harferion dyddiol, gallem leihau ein hôl troed carbon a chael effaith bositif ar yr amgylchedd.

Tasg fer

Beth yw dy ôl troed carbon di? Pa weithgareddau byddi di'n eu gwneud yn ystod y bore?

Llinell / Line

Pa newidiadau bach fedri di eu gwneud?

  1. Teithio

A fedri di fod yn deithiwr gweithredol? Sut byddai’r awgrymiadau hyn yn lleihau dy ôl troed carbon??*

  • Defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus - Petai mwy o bobl yn defnyddio bysiau a threnau, byddai llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio fesul person, sy’n golygu y byddai llai o garbon deuocsid yn cael ei gynhyrchu!

  • Mynd am dro - Byddi di'n teimlo’n well wrth gael awyr iach a bydd yn ymarfer y corff ar yr un pryd.

  • A oes gan dy ysgol di restl ar gyfer beic neu sgwter? - Defnyddia dy egni dy hun i gyrraedd yr ysgol gan leihau dy ôl troed carbon!

  • A oes angen gyrru? - Os oes wir angen gyrru, ceisia rannu car gyda rhywun arall. Bydd hyn yn golygu dy fod yn lleihau’r cyfanswm o garbon deuocsid sy’n cael ei gynhyrchu.

  1. Yn y cartref

A fedri di ddefnyddio egni yn effeithlon yn y cartref? Sut allet ti newid dy arferion er mwyn lleihau dy ôl troed carbon?

  • Datgysylltu'r plwg - Mae gadael offer trydanol ymlaen heb eu defnyddio yn golygu bod trydan yn dal i gael ei ddefnyddio. Felly, os nad wyt ti'n ei ddefnyddio, diffodda'r offer!

  • Diffodd - Diffodda'r goleuadau wrth adael ystafell. Dyma ffordd syml o leihau gwastraff trydan.

  • Bylbiau arbed egni - Buddsodda mewn bylbiau arbed egni o amgylch y tŷ. Maent yn para 15 gwaith yn hirach ac yn defnyddio 80% yn llai o egni na bylbiau eraill!

  • Golchi gan ddefnyddio dŵr oer - Gosoda'r peiriant golchi llestri neu ddillad ar raglen sy’n defnyddio dŵr oerach. Mae 90% o’r egni sydd ei angen yn cael ei ddefnyddio i gynhesu’r dŵr.

  1. Bwyd

Mae’r bwyd yr wyt yn ei fwyta yn medru effeithio ar dy ôl troed carbon.

  • Bydda'n barod i goginio - Wrth goginio prydau bwyd gan ddefnyddio bwydydd naturiol, bydd llai o egni yn cael ei ddefnyddio o ran pecynnu bwyd. A wyt ti'n mwynhau coginio? Beth yw dy hoff bryd bwyd?

  • Bag hir oes - Mae siopau yn codi tâl am fagiau – pam mae hyn yn digwydd? Efallai, dy fod gen ti ‘fag hir oes’. Galli di ddefnyddio’r bag yma drosodd a throsodd, gan leihau gwastraff a gwella dy ôl troed carbon.

  • Bwyta'n dymhorol - Gan fwyta bwyd tymhorol, bydd llai o danwydd yn cael ei ddefnyddio i gludo bwyd o dramor a’i rewi.

  • Bwyta'n lleol - A wyt ti’n gwybod o ble daw bwyd? A fedri di brynu bwyd sydd wedi cael ei dyfu yn lleol? Wrth wneud hyn, bydd llai o egni yn cael ei ddefnyddio i gludo’r bwyd o wledydd eraill.

  • Tyfa lysiau a ffrwythau - Ceisia dyfu dy fwyd dy hun. Bydd angen pot planhigyn, pridd, rhai hadau a llecyn heulog. Mae mefus yn rhwydd iawn i’w tyfu yn yr haf. Beth arall alli di geisio’i dyfu?

Llinell / Line

Lleihau, Ail-ddefnyddio, Ailgylchu

Trwy gynhyrchu llai o wastraff, galli di leihau dy ôl troed carbon. Galli di fod yn rhyfelwr eco yn dy gartref ac yn yr ysgol, gan annog pobl i Leihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu.

Lleihau

A fedri di leihau’r cyfanswm o sbwriel yr wyt yn ei greu? A oes angen yr holl becynnau? A fedri di ddefnyddio’r papur yna eto? Mae lleihau gwastraff yn golygu dy fod yn arbed arian. Pam tybed?

Ailddefnyddio

Cyn taflu rhywbeth, ystyria a oes modd i’w ail-ddefnyddio. Bagiau plastig, papur, cardfwrdd, gall dillad hyd yn oed gael eu hail-ddefnyddio. Trefna ‘Siop Gyfnewid Gwisg Ysgol’ yn yr ysgol. Trefna gystadleuaeth creu modelau allan o sbwriel gyda dy ffrindiau.

Ailgylchu

Os medri di ei ail-ddefnyddio, galli di ei ailgylchu. Didola dy wastraff gan benderfynu ar y pethau sy’n bosib i’w hailgylchu. Mae ailgylchu deunyddiau yn defnyddio llai o egni na’r egni sy’n cael ei ddefnyddio i’w creu.

Compost

Gall sbarion bwyd gael eu hailgylchu. Compostia'r bwyd yn hytrach na’i daflu. A fedri di greu abwydfa er mwyn arsylwi sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ddadelfennu?

Trwy gynhyrchu llai o wastraff, galli di leihau dy ôl troed carbon. Galli di fod yn rhyfelwr eco yn dy gartref ac yn yr ysgol, gan annog pobl i Leihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu. Wyt ti'n gallu lleihau faint o sbwriel rwyt ti'n ei gynhyrchu? Trafoda dy syniadau gydag aelod o'r teulu neu ffrind.

Llinell / Line

Bysedd Gwyrdd

Mae angen i bawb ddefnyddio egni felly mae gan bawb ôl troed carbon. Gall plannu coeden helpu i leihau dy ôl troed carbon.

Cer i arddio

Cer allan i arddio! Nid yn unig bydd yr amgylchedd yn edrych yn well, ond byddi di’n teimlo’n well oherwydd dy fod yn ymarfer y corff wrth arddio. Er mwyn dechrau does dim angen llawer o ofod arnat, dim ond pot planhigyn a chompost.

Planna goeden

Mae coed yn amsugno carbon deuocsid ac yn rhyddhau ocsigen. Bydd plannu coeden yn helpu adfer y cydbwysedd yn yr atmosffer.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Rhestr wirio ddefnyddiol ar ffurf poster sy'n nodi'r hyn sydd angen cynnwys wrth greu poster neu daflen.

Posteri a Thaflenni
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Taflen waith syml i hybu’r dysgwyr i gynllunio a chreu poster sy'n trosglwyddo'r neges am ôl troed carbon yn glir ac yn effeithiol, gan awgrymu ffyrdd y gallwn leihau ein hôl troed carbon a helpu i ddiogelu’r amgylchedd.

Dylunio poster
Llinell / Line

Diwrnod y Ddaear: Lleihau Ôl Troed Carbon

What is your carbon footprint?

Even these simple things we take for granted require energy.

  • Toastmade with an elecric toaster.
  • Orange juicemade with oranges made in Spain.
  • Carruns on fossil fuel.
  • Alarm clockuses batteries.
  • Showergas used to heat water.
  • Electic toothbrushuses electricity to charge up.

The energy needed for these simple routines produces a gas called carbon dioxide. This is known as a ‘greenhouse’ gas because it traps heat, causing the Earth to warm up. The more carbon dioxide is released into the atmosphere, the worse it is for the environment.

The amount of carbon you produce as a result of your daily activities is known as your carbon footprint.

Everything we do has an impact on the environment.

If we made small changes to our daily routine, we could reduce our carbon footprint and have a positive effect on the environment.

Quick task

What is your carbon footprint? What activities do you do in the morning?

Llinell / Line

What little changes can you make?

  1. Travel

Can you be an active traveller? How would each of these suggestions reduce your carbon footprint?

  • Take public transport - If more people use buses and trains, they use less fuel per person, meaning less carbon dioxide produced!
  • Go for a walk - You will feel better for the fresh air and get some exercise at the same time.
  • Does your school have bike or scooter racks? - If so, use your own energy to get to school and reduce your carbon footprint!
  • Do you really need to drive? - If the answer is yes, try car sharing. That way you can still reduce the amount of carbon dioxide you produce.
  1. 鶹Լ

Can you be energy efficient at home? How could you change your habits to reduce your carbon footprint?

  • Unplug - Leaving appliances on standby continues to use electricity. If you don’t need it, switch it off!
  • Switch off - Switch off lights when you leave a room. A simple way to stop wasting electricity.
  • Energy-saving lightbulbs - Invest in energy-saving lightbulbs around your house. They last 15 times longer and use 80% less energy than other lightbulbs. That’s saving money as well as energy!
  • Cool water washing! - Set your dishwasher or washing machine to a cooler setting. 90% of the energy needed goes towards heating the water.
  1. Food

Even the food you eat can affect your carbon footprint.

  • Ready, steady, cook - By cooking meals from scratch, less energy would be used in terms of packaging. Do you enjoy cooking? What would be your favourite meal?
  • Bag for life - You are charged for the carrier bags you use - why do you think this is? Perhaps you own a ‘bag for life’. This way, you can reuse the bag again and again, therefore reducing waste and improving your carbon footprint.
  • Eat seasonally - By eating food that is in season, there would be less fuel used to transport food from abroad and refrigerate it.
  • Eat local! - Do you know where your food comes from? Can you buy food that was grown locally? That way, there would be less energy used in the transporting your food from other countries.
  • Grow your own! - Try growing your own food. All you need is a plant pot, some soil, some seeds and a sunny spot. Strawberries are easy to grow in summer. What else could you try?
Llinell / Line

Reduce, Reuse, Recycle

If you produce less waste, you can reduce your carbon footprint. You can become an eco warrior at home and at school, encouraging people to Reduce, Reuse and Recycle.

Reduce

Reduce the rubbish you create. Do you need all that packaging? Can you use that paper again? Reducing your waste means saving money too. Can you think why?

Reuse

Before throwing something away, consider if it can be reused. Plastic bags, paper, cardboard, even clothes can all be reused. You could organise a uniform ‘Swap Shop’ at school. You could arrange a junk modelling competition with your friends.

Recycle

If you can’t reuse it, recycle it. Sort your waste to see what can be recycled. Recycling materials uses less energy than creating them.

Compost

Even food scraps can be recycled. Compost them instead of throwing away. Create a wormery to see how food waste is broken down.

If you produce less waste, you can reduce your carbon footprint. You can become an eco warrior at home and at school, encouraging people to Reduce, Reuse and Recycle. Can you reduce the amount of rubbish you create? Discuss your ideas with a family member or friend.

Llinell / Line

Green Fingers

Everyone needs to use energy which means everyone will have a carbon footprint. A simple act of planting a tree can help offset your carbon footprint.

Get gardening

Get out into the garden and plant! Not only will your environment look better, you’ll be getting exercise and feel better too. You don’t need lots of space, just a plant pot and some compost should get you started.

Plant a tree

Trees absorb carbon dioxide and release oxygen. Planting a tree will help restore the balance in the atmosphere.

Llinell / Line

Activity 1

A useful poster in Welsh listing what to include when creating a poster or leaflet.

Posters and Flyers
Llinell / Line

Activity 2

A simple worksheet to encourage learners to design and create a poster that conveys the carbon footprint message clearly and effectively, and suggests ways in which we can reduce our carbon footprint and help protect the environment.

Designing a poster
Llinell / Line

Earth Day - Reducing your Carbon Footprint

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU