鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Egluro cryfder sain, traw a defnyddiau a sain

Lesson content

  • Explain the strength of sound, pitch and materials with sound
Llinell / Line

Cryfder sain

Mae rhywbeth sy'n dirgrynu yn gallu gwneud sain dawel neu sain uchel. I wneud sain uwch o ddrwm, rhaid i ti daro'r croen yn galetach. I wneud sain uwch o linyn, tynna'n galetach arno.

Llinell / Line

Traw

Rydyn ni'n gallu gwneud i rywbeth sy'n dirgrynu newid traw. Os gwneir hyd llinyn sy'n dirgrynu yn fyrrach yna bydd y traw yn codi (bydd ganddo draw uwch). Os bydd y tensiwn (faint y mae'n cael ei ymestyn) mewn croen drwm sy'n dirgrynu yn llai, yna bydd y traw yn syrthio (bydd ganddo draw is).

Llinell / Line

Defnyddiau a sain

Os oes defnydd megis nwy, hylif neu solid wrth ymyl y peth sy'n dirgrynu, mae'r sain yn gallu teithio. Mae'r sain yn teithio drwy ddefnydd. Mae'r sain yn gwneud i'r defnydd ddirgrynu.

Mae sain yn gallu teithio'n dda iawn mewn rhai solidau, megis pibell fetel, oherwydd bod y dirgryniadau yn teithio'n rhwydd.

Fel arfer, rydyn ni'n clywed sain oherwydd bod yr aer yn cario'r dirgryniadau o bethau i'n clustiau. Os nad oes unrhyw ddefnydd rhwng gwrthrych a'n clustiau yna dydyn ni ddim yn gallu clywed unrhyw sain.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU