鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Egluro ffynonellau golau, pethau sy'n adlewyrchu golau a chysgodion

Lesson content

  • Explain sources of light, objects that reflect light and shadows
Llinell / Line

Ffynonellau a phethau sy'n adlewyrchu golau

Mae ffynhonnell yn gwneud ei olau ei hun. Mae golau'n dod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys yr Haul. Gallwn gymharu disgleirdeb goleuadau.

Mae'r Haul a sêr eraill, metel poeth iawn a thanau yn ffynonellau golau. Dydy'r Lleuad ddim yn ffynhonnell olau. Mae'n adlewyrchu golau o'r Haul.

Dydy'r planedau ddim yn cynhyrchu eu golau eu hunain. Maen nhw'n adlewyrchu golau o'r Haul.

Mae'r rhan fwyaf o'r golau sy'n syrthio ar arwynebau sgleiniog a drychau yn cael ei adlewyrchu. Wrth yrru gyda'r nos mae 'llygaid cathod' ar y ffordd yn adlewyrchu golau o briflampau'r car.

Fydd adlewyrchydd golau, fel drych, ddim i'w weld mewn ystafell cwbl dywyll. Rydyn ni'n gweld gwrthrychau oherwydd bod y golau sy'n syrthio arnyn nhw yn cael ei adlewyrchu.

Gweld ffynhonnell olau

Mae golau’n teithio oddi wrth ffynhonnell. Rydyn ni'n gweld ffynhonnell olau pan fydd golau o'r ffynhonnell yn mynd i mewn i'n llygaid.

Perygl!

Paid byth ag edrych yn uniongyrchol ar yr Haul. Bydd yr holl olau sy'n teithio oddi wrtho yn niweidio eich llygaid yn gyflym iawn.

Mae pryfed tân a magïod y golau yn gwneud eu golau eu hunain i ddenu cymar.

Cysgodion

  • Mae golau yn gallu teithio drwy rai deunyddiau tryloyw fel y gallwch weld ffynhonnell y golau yn glir.
  • Mae golau yn gallu teithio drwy rai deunyddiau tryleu, ond fydd ffynhonnell y golau ddim i'w gweld yn glir.
  • Dydy golau ddim yn gallu teithio drwy ddeunyddiau didraidd. Mae'r golau yn cael ei rwystro.

Mae cysgod yn cael ei ffurfio pan fydd golau yn cael ei rwystro. Wrth symud y gwrthrych yn nes at y ffynhonnell olau, bydd y cysgod yn mynd yn fwy.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU