Â鶹ԼÅÄ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga ddefnyddio arian i dalu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn to use money to pay for items up to £10 and calculate the change.

This lesson includes:

  • one video
  • two activities

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â .

Llinell / Line

Fideo / Video

Gwylia'r fideo i ddysgu mwy am wario arian ar fwyd ar gyfer parti pen-blwydd.

Watch the video and learn more about spending money on food for a birthday party.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio’r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • adio rhifau syml
  • lluosi rhifau syml
  • talu am eitemau hyd at £10 a chyfrifo’r newid

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • add simple numbers
  • multiply simple numbers
  • pay for items up to £10 and calculate the change
Llinell / Line

Darnau arian a phapurau banc

Mae arian yn cynnwys amrywiaeth o ddarnau arian metel yn ogystal â phapurau neu nodion banc. Rydym naill ai yn gwario arian neu'n ei gynilo.

Os wyt ti'n defnyddio nodion banc neu ddarnau arian i dalu am bethau sy'n costio'n llai na gwerth yr arian, cei di arian yn ôl fel newid.

Er enghraifft, pe baet ti'n prynu cacen sy'n costio £6 gyda phapur £10, byddet ti'n derbyn £4 yn ôl fel newid. Gall newid gael ei roi mewn amrywiaeth o ddarnau arian.

Coins and notes

Money is made up of a selection of metal coins and paper notes. We either spend money or save it up.

If you use notes or coins to pay for things that cost less than the money's value, you get money back as change.

For example, if you were to buy a cake that costs £6 with a £10 note, you would get £4 back in change. Change can be given in a variety of coins.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Lawrlwytha'r linc isod o wefan Twinkl a chyfra faint o arian sydd ym mhob jar.

Download the link from the Twinkl website below and count how much money is in each jar.

Faint ydw i wedi gwario? / How much have I spent?
Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Symiau yn ymwneud ag arian.

Sums about money.

  1. Mae Owain yn prynu llyfr am £1.50 a phren mesur am £2.60. Faint mae e wedi gwario i gyd?

Owain buys a book for £1.50 and a ruler for £2.60. How much has he spent all together?

  1. Mae Anest yn prynu dwy goeden afalau am £1.95 yr un. Faint mae hi wedi gwario i gyd?

Anest buys two apple trees for £1.95 each. How much has she spent all together?

  1. Mae Lois yn prynu hances newydd am £5.99 a sgert am £9.99. Faint mae hi wedi gwario i gyd?

Lois buys a new handkerchief for £5.99 and a skirt for £9.99. How much has she spent all together?

  1. Mae Lloyd yn prynu tegan am £4.99 a sanau am £9.99. Faint o newid fydd e'n ei gael o bapur £20.00?

Lloyd buys a toy for £4.99 and socks for £9.99. How much change will he get from a twenty pound note?

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU