鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga ddarllen ar goedd gan ddefnyddio atalnodi i helpu’r mynegiant.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn to read aloud using punctuation to aid expression.

This lesson includes:

  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Adroddiadau teledu a radio

Cyn darllen adroddiad yn uchel ar y radio neu'r teledu, mae'n rhaid i'r gohebydd yn gyntaf ysgrifennu'r adroddiad ar bapur neu yn ddigidol.

Mae adroddiad papur newydd ac adroddiad ar gyfer y radio neu'r teledu'n debyg, ond serch hynny mae rhai gwahaniaethau rhynddyn nhw, er enghraifft:

  • Mae adroddiad radio yn adroddiad sy'n cael ei ysgrifennu am ddigwyddiad sy'n digwydd ar y pryd, hynny yw, yn y fan a'r lle, neu am ddigwyddiad sydd newydd gymryd lle. Rhaid disgrifio i'r gwrandawyr beth sydd i'w weld, oherwydd does dim lluniau i ddangos beth sy'n digwydd.

  • Mae adroddiad teledu yn adroddiad sy'n cael ei ysgrifennu am ddigwyddiad sy'n digwydd ar y pryd, hynny yw, yn y fan a'r lle, neu am ddigwyddiad sydd newydd gymryd lle. Gan fod y gwylwyr yn gallu gweld lluniau o'r digwyddiad, does dim angen disgrifio pethau mor fanwl ag mewn adroddiad radio.

  • Mae adroddiad papur newydd yn cyfeirio'n ôl at y digwyddiad, yn aml o'r diwrnod neu'r wythnos flaenorol.

Llinell / Line

Cyflwyno adroddiadau ar lafar

Mae'n rhaid i ohebwyr teledu neu radio ysgrifennu adroddiad sy'n dal sylw'r rhai sy'n gwrando neu’n gwylio, ac yna cadw eu sylw. Mae'n rhaid i'r adroddiad gynnwys y wybodaeth bwysig am y pwnc.

Yn aml, dim ond dau i dri munud yw hyd yr adroddiad, oherwydd does dim llawer o amser ar gyfer adroddiadau mewn rhaglenni teledu a radio.

Mae'n bwysig bod y gohebydd yn siarad mewn ffordd ddiddorol. Yn gyntaf, mae'n rhaid iddo siarad yn glir, gan ddweud pob gair yn eglur. Mae'n bwysig hefyd ei fod yn amrywio tôn ei lais fel ei fod yn cadw diddordeb y gwrandawyr.

Mae'n bwysig i ohebydd ddefnyddio atalnodi mewn unrhyw adroddiad i helpu'r gwrandawyr ddeall cynnwys yr adroddiad.

Defnydd cywir o iaith yn dy adroddiad

Mae'n bwysig i ddefnyddio iaith gywir a chlir pan rwyt ti'n ysgrifennu adroddiad fydd yn cael ei ddarllen yn uchel ar gyfer y radio neu'r teledu. Mae'n rhaid disgrifio'n union beth sydd wedi digwydd neu sydd wrthi'n digwydd. Cofia fod adroddiadau yn fyr fel arfer.

Mae hi hefyd yn bwysig defnyddio atalnodi, oherwydd mae coma neu atalnod llawn yn dy helpu i roi seibiant yn y lle iawn, sy'n helpu'r gwrandawyr neu'r gwylwyr i ddeall dy adroddiad yn iawn. Byddai gofynnod neu ebychnod yn dy adroddiad yn dy helpu i ddefnyddio'r dôn gywir yn dy lais.

Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Dyma dair enghraifft o adroddiad am yr un digwyddiad.

Gwna restr o beth sy'n debyg a beth sy'n wahanol rhwng y tri adroddiad.

Adroddiad radio

Rydw i'n sefyll o flaen tŷ hanesyddol yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ pwysig iawn yn y gymuned ond erbyn hyn mae'r to a'r rhan fwyaf o'r waliau wedi syrthio ac mae tyllau mawr yn y ffenestri. Chwythodd y gwynt lechi'r to a gwydr y ffenestri nes eu bod wedi distrywio sawl car yn y maes parcio - ac mae hynny tua 500 metr i ffwrdd o ble dw i'n sefyll! Yn wir, mae'r gwynt yn dal i chwythu yn gryf nawr, ac mae pryder bydd mwy o ddifrod heno.

Adroddiad teledu

Fel y gwelwch chi rydw i'n sefyll yma o flaen y tŷ hanesyddol hwn yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ oedd â statws uchel yn y gymuned ond erbyn hyn, fel rydych yn gallu gweld tu ôl i mi, mae'r to wedi ei falu, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel ac mae tyllau enfawr yn y ffenestri. Yma, chwythodd y gwynt y gwydr a llechi'r to - mae hwn tua 500 metr o'r prif adeilad ei hun. Mae sawl car hefyd wedi cael eu distrywio, ac mae pryder bydd mwy o ddifrod heno os bydd yn gwynt yn parhau i chwythu'n gryf.

Adroddiad papur newydd

Nos Iau diwethaf, yn ystod y storm o wynt a glaw a effeithiodd y rhan fwyaf o ogledd Cymru, gwnaeth tân ddinistrio un o dai hanesyddol pwysicaf Sir Conwy.

Dechreuodd y tân tua 10 o'r gloch y nos ac mae amheuaeth ai damwain neu dân wedi cael ei gynnau'n fwriadol oedd e. Bydd yr heddlu'n gwneud ymholiadau yn yr ardal yn y dyddiau nesaf.

Roedd Hafod yr Unos yn dŷ ysblennydd, ond erbyn hyn mae'r to wedi ei falurio, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel ac mae tyllau enfawr yn y ffenestri.

Yn ffodus, cafodd neb ei anafu er i'r llechi a'r gwydr gael eu gwasgaru ar hyd y maes parcio sydd tipyn o bellter i ffwrdd. Serch hyn, cafodd nifer o geir eu distrywio.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Darllena’r adroddiad 'Taith i'r lleuad' isod i ti dy hun. Wedyn darllena'r adroddiad ar goedd, ac amsera dy hun yn darllen. Beth am ofyn i oedolyn dy recordio ar ffôn symudol neu dabled?

Meddylia sut gallet ti newid yr adroddiad i'w wneud yn fyrrach. Dechreua drwy dorri'r adroddiad fel ei fod bump eiliad yn fyrrach, yna 10 eiliad, yna 15 eiliad yn fyrrach. Pa eiriau wnei di ddewis i dynnu allan o'r adroddiad i'w wneud yn fyrrach, tybed? Cofia fod angen i'r adroddiad wneud synnwyr er bod llai o eiriau ynddo.

Taith i’r lleuad

Ar 25 o Fai 1961, dywedodd John F. Kennedy, Arlywydd Unol Daleithiau'r America, ei fod am yrru dyn i'r lleuad cyn y flwyddyn 1970. Dyma antur gyffrous a phwysig iawn i'r Americanwyr.

Fe aeth tri dyn i'r lleuad ar 16 o Orffennaf, 1969. Eu henwau oedd Edwin Aldrin, Neil Armstrong a Michael Collins. Enw'r llong ofod oedd Apollo. Fe aeth y llong ofod o gwmpas y ddaear cyn teithio i'r lleuad.

Tua 112 cilomedr o'r lleuad dyma Neil Armstrong yn tanio roced o'r llong ofod. Roedd hyn yn arbed y llong rhag disgyn i'r lleuad yn rhy gyflym. Yna, glaniodd Eryr yn ddiogel ar y lleuad. Roedd y llong ofod wedi teithio pedwar can mil o gilomedrau ac wedi glanio o fewn chwe cilomedr i'r lle cywir ar y lleuad.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Beth am ysgrifennu adroddiad radio am ddigwyddiad pwysig?

Pan wyt ti'n hapus gyda dy adroddiad, darllena dy waith yn uchel. Pan wyt ti'n hyderus dy fod yn darllen yn uchel yn dda, beth am recordio dy lais ac amseru dy adroddiad?

Gwranda yn ôl ar dy recordiad a gofyn y cwestiynau canlynol i ti dy hun:

  • Ydy'r adroddiad yn glir?
  • Ydy hyd yr adroddiad yn iawn?
  • Wyt ti wedi cofio rhoi saib wrth ddarllen ar goedd ble bynnag mae atalnod llawn neu goma yn yr adroddiad ysgrifenedig?
  • Wyt ti'n hapus gyda thôn dy lais?

Os wyt ti'n ateb 'Na' i unrhyw un o'r pwyntiau uchod, cer ati i newid yr adroddiad ac ailrecordia dy waith mor glir â phosibl. Pob lwc!

Radio and television reports

Before reading a report aloud on the radio or on television, reporters must write the report digitally or on paper.

Radio and television reports are similar, but there are some differences between them, for example:

  • A radio report is written about an event that is currently happening at that particular moment, or an event that has just taken place. What can be seen must be described to the listeners because there aren’t any images to show what is happening.

  • A television report is written about an event that is currently happening at that particular moment, or an event that has just taken place. As viewers can see images of the event, there is no need to describe things in as much detail as a radio report.

  • A newspaper report looks back at an event, usually from the previous day or week.

Llinell / Line

Presenting reports orally

Radio or television reporters must write a report which captures the attention of those listening or watching, and then keeps them interested. A report must include the important information about the subject.

Reports are often only two to three minutes long, because there isn't a lot of time for reports on radio and television programmes.

It’s important that the reporter speaks in an interesting way. Firstly, they must speak clearly, and listeners should be able to understand every word. It’s also important that they vary their tone of voice to keep the listeners interested.

It’s important that reporters use punctuation in any report in order to help the listeners understand the contents of the report.

Using correct language in your report

It's important to use clear and correct language when writing a report that will be read aloud on the radio or on television. You must describe what has happened or what is currently happening. Remember that reports are usually short.

It’s important to use punctuation, because a comma or full stop helps you to pause in the right places, which helps listeners or viewers understand your report properly. Using question marks or exclamation marks in your report will help you use the correct tone of voice.

Llinell / Line

Activity 1

Here are three examples of a report about the same event.

Make a list noting what's similar and what's different between the three reports.

Radio report

Rydw i'n sefyll o flaen tŷ hanesyddol yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ pwysig iawn yn y gymuned ond erbyn hyn mae'r to a'r rhan fwyaf o'r waliau wedi syrthio ac mae tyllau mawr yn y ffenestri. Chwythodd y gwynt lechi'r to a gwydr y ffenestri nes eu bod wedi distrywio sawl car yn y maes parcio - ac mae hynny tua 500 metr i ffwrdd o ble dw i'n sefyll! Yn wir, mae'r gwynt yn dal i chwythu yn gryf nawr, ac mae pryder bydd mwy o ddifrod heno.

(I’m standing outside an historical house in the Llangernyw area. It was once a very important house in the community, but by now the roof and most of the walls have collapsed and there are large holes in the windows. The wind battered the windows and blew the slates off the roof so hard they damaged many cars in the car park – and that’s about 500 metres from where I’m standing! It is certainly still very windy here now, and there are concerns that there will be further destruction tonight.)

Television report

Fel y gwelwch chi rydw i'n sefyll yma o flaen y tŷ hanesyddol hwn yn ardal Llangernyw. Roedd unwaith yn dŷ oedd â statws uchel yn y gymuned ond erbyn hyn, fel rydych yn gallu gweld tu ôl i mi, mae'r to wedi ei falu, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel ac mae tyllau enfawr yn y ffenestri. Yma, chwythodd y gwynt y gwydr a llechi'r to - mae hwn tua 500 metr o'r prif adeilad ei hun. Mae sawl car hefyd wedi cael eu distrywio, ac mae pryder bydd mwy o ddifrod heno os bydd yn gwynt yn parhau i chwythu'n gryf.

(As you can see, I’m standing in front of this historical house in the Llangernyw area. It was once a house held in high esteem in the community but by now, as you can see behind me, the roof is broken, most of the walls have collapsed and there are enormous holes in the windows. Here, the wind battered the glass and blew the slates off the roof – this is about 500 metres from the main building itself. Many cars have also been damaged and there are concerns that there will be further destruction tonight if the strong winds continue.)

Newspaper report

Nos Iau diwethaf, yn ystod y storm o wynt a glaw a effeithiodd y rhan fwyaf o ogledd Cymru, gwnaeth tân ddinistrio un o dai hanesyddol pwysicaf Sir Conwy.

Dechreuodd y tân tua 10 o'r gloch y nos ac mae amheuaeth ai damwain neu dân wedi cael ei gynnau'n fwriadol oedd e. Bydd yr heddlu'n gwneud ymholiadau yn yr ardal yn y dyddiau nesaf.

Roedd Hafod yr Unos yn dŷ ysblennydd, ond erbyn hyn mae'r to wedi ei falurio, y rhan fwyaf o'r waliau wedi eu dymchwel ac mae tyllau enfawr yn y ffenestri.

Yn ffodus, cafodd neb ei anafu er i'r llechi a'r gwydr gael eu gwasgaru ar hyd y maes parcio sydd tipyn o bellter i ffwrdd. Serch hyn, cafodd nifer o geir eu distrywio.

(Last Thursday, during a storm of wind and rain that affected most of north Wales, a fire destroyed one of the most important historical houses in Conwy county.

The fire began at 10pm and there are suspicions as to whether it was started intentionally or by accident. The police will make enquiries in the area during the next few days.

Hafod yr Unos was once a magnificent house, but by now the roof is destroyed, most of the walls have collapsed and there are enormous holes in the windows.

Luckily, nobody was injured, even though the slates and the glass were scattered all over the car park, which is quite a distance away. However, many cars were damaged.)

Llinell / Line

Activity 2

Read the report 'Taith i'r Lleuad' below to yourself. Then, read the article out loud and time yourself doing so. Why not ask an adult to record you on a mobile phone or tablet?

Have a think about how you could change the report to make it shorter. Start by making the report five seconds shorter, then 10 seconds, then 15 seconds shorter. Which words will you choose to take out to make your report shorter? Remember that your report still needs to make sense although there are fewer words in it.

Taith i’r lleuad

Ar 25 o Fai 1961, dywedodd John F. Kennedy, Arlywydd Unol Daleithiau'r America, ei fod am yrru dyn i'r lleuad cyn y flwyddyn 1970. Dyma antur gyffrous a phwysig iawn i'r Americanwyr.

Fe aeth tri dyn i'r lleuad ar 16 o Orffennaf, 1969. Eu henwau oedd Edwin Aldrin, Neil Armstrong a Michael Collins. Enw'r llong ofod oedd Apollo. Fe aeth y llong ofod o gwmpas y ddaear cyn teithio i'r lleuad.

Tua 112 cilomedr o'r lleuad dyma Neil Armstrong yn tanio roced o'r llong ofod. Roedd hyn yn arbed y llong rhag disgyn i'r lleuad yn rhy gyflym. Yna, glaniodd Eryr yn ddiogel ar y lleuad. Roedd y llong ofod wedi teithio pedwar can mil o gilomedrau ac wedi glanio o fewn chwe cilomedr i'r lle cywir ar y lleuad.

Here's a translation of the report:

Journey to the moon

On 25 May 1961, John F. Kennedy, President of the United States of America, said he was going to send a man to the moon before the year 1970. This was an exciting and important adventure for the Americans.

Three men went to the moon on 16 July 1969. Their names were Edwin Aldrin, Neil Armstrong and Michael Collins. The spacecraft was called Apollo. The spacecraft orbited the earth before heading to the moon.

About 112 kilometres from the moon, Neil Armstrong fired up a rocket from the spacecraft. This prevented the spacecraft from descending to the moon too quickly. Then, the Eagle landed safely on the moon. The spacecraft had travelled four hundred thousand kilometres and landed within six kilometres to the correct destination on the moon.

Llinell / Line

Activity 3

How about writing a radio report about an important event?

When you're happy with your report, read your work out loud. When you're confident that you're reading aloud well, how about recording your voice and time your report?

Listen back to your recording and ask yourself the following questions:

  • Is your report clear?
  • Are you happy with the length of your report?
  • Did you remember to pause when reading aloud whenever there was a full stop or comma in your written report?
  • Are you happy with your tone of voice?

If you answer 'No' to any of the points above, go back and change your report and re-record your work as clearly as possible. Good luck!

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU