鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Gwybodaeth gyffredinol am ddisgyrchiant

Lesson content

  • General information about gravity
Llinell / Line

Mae gan wrthrych à, sef cyfanswm y deunydd mae wedi ei wneud ohono. Nid grym yw màs a chaiff ei fesur mewn cilogramau. Rydyn ni'n mesur grymoedd mewn newtonau gan ddefnyddio mesurydd grym (a elwir yn fesurydd newton hefyd).

Yr enw ar y grym sy'n atynnu neu'n tynnu'r Ddaear a gwrthrych (megis person) tuag at ei gilydd yw disgyrchiant. Tyniad y blaned ar à unrhyw wrthrych sy'n gwneud y grym rydyn ni'n ei alw'n bwysau.

Pwysau gwrthrych yw grym y Ddaear ar y gwrthrych a mesurir pwysau mewn newtonau. Mae gan blanedau eraill, sêr neu leuadau ddisgyrchiant hefyd.

Mae'r diagram yma'n dangos disgyrchiant neu bwysau gyda saeth yn mynd i gyfeiriad y Ddaear.

Llinell / Line

Ffrithiant

Gall grymoedd achosi i bethau gyflymu, arafu, a newid cyfeiriad. Mae grymoedd yn gweithredu i un cyfeiriad penodol. Wrth i ni geisio symud gwrthrych, yr enw ar y grym sy'n rhwystro neu'n arafu'r symudiad hwnnw yw ffrithiant.

Os bydd y gwrthrych yn symud yn barod, yr enw ar y grym sy'n arafu'r gwrthrych ydy ffrithiant, felly mae ffrithiant yn wthiad yn erbyn gwrthrych sy'n symud.

Grym cyffwrdd rhwng deunyddiau ydy ffrithiant. Math o ffrithiant rhwng aer a deunydd arall yw gwrthiant aer.

Gall ffrithiant fod yn rym defnyddiol oherwydd ei fod yn rhwystro ein hesgidiau rhag llithro ar y ffordd wrth i ni gerdded ac mae'n rhwystro teiars ceir rhag llithro.

Llinell / Line

Cofia

Nid math o ffrithiant ydy brigwth. Mae brigwth yn rym tuag at i fyny sydd i'w weld mewn nwyon a hylifau. Mae'n cael ei greu drwy fod y nwy neu'r hylif islaw yn gwthio tuag at i fyny yn fwy na'r nwy neu'r hylif sydd uwchben.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU