鶹Լ

"Fy enw i yw Sherlock Holmes. Fy musnes i yw gwybod pethau dyw pobl eraill ddim yn ei wybod."

Dyfyniad gan Sherlock Holmes, un o dditectifs enwocaf y byd. Cymeriad a gafodd ei greu gan yr awdur Syr Arthur Conan Doyle, er bod nifer o bobl yn credu ei fod yn ddyn oedd wedi byw go iawn! Ac eleni, ar 22 Mai mae hi'n 160 o flynyddoedd ers geni'r awdur.

Image caption,
Syr Arthur Conan Doyle

Syr Arthur Conan Doyle

Ganwyd Syr Arthur Conan Doyle yng Nghaeredin yn 1859. Yn blentyn, roedd ganddo dalent am ddweud straeon ond dilynodd yrfa mewn meddygaeth ac roedd yn gweithio fel doctor pan ddechreuodd ysgrifennu am y ditectif. Roedd ganddo uchelgais i fod yn awdur adnabyddus, ym maes nofelau hanesyddol yn arbennig. Cyhoeddwyd ei stori gyntaf am Sherlock Holmes, A Study in Scarlet, yn Beeton's Christmas Annual 1887.

Yr ysgogiad i sgwennu stori dditectif, yn ôl yr awdur, oedd y ffaith ei fod wedi cael llond bol ar ddarllen nofelau am dditectifs oedd yn dibynnu ar gamgymeriad drwgweithredwr neu elfen o lwc i ddatrys achosion. Felly, crëwyd Sherlock Holmes - ditectif dawnus oedd yn gweithio'n systematig, yn rhesymegol ac yn effeithiol - athrylith oedd nid yn unig yn edrych ond yn arsylwi yn ofalus. Gallai Sherlock ddadansoddi pobl a dod i gasgliadau deallus amdanynt. Gan ddefnyddio arsylwadau craff, gwyddoniaeth fforensig a sgiliau rhesymu byddai'n datrys achosion oedd yn edrych yn amhosibl - yn aml rhai oedd wedi creu penbleth i heddlu Scotland Yard!

Image caption,
Syr Arthur Conan Doyle

Lladd Sherlock Holmes

Roedd llwyddiant Sherlock Holmes wedi caniatáu i Arthur Conan Doyle ymddeol fel doctor a gweithio'n llawn amser fel awdur. Serch hynny, er y llwyddiant a'r enwogrwydd a ddaeth yn sgil y straeon am y ditectif, roedd yr awdur wedi syrffedu ar y cymeriad ac roedd eisiau ei ladd. Ysgrifennodd at ei fam yn 1891 gan ddweud "Dw i'n meddwl am lofruddio Holmes … Mae'n tynnu fy meddwl oddi ar bethau gwell." Atebodd ei fam gan ymbil arno i beidio gwneud!

Peth arall oedd yn mynd dan groen yr awdur oedd bod nifer o bobl yn cymysgu'r awdur gyda'r cymeriad neu'n credu bod Sherlock Holmes yn gymeriad go iawn. Byddai Arthur Conan Doyle yn cael llythyron di-ri wrth bobl eisiau llofnod Sherlock Holmes, eisiau cwrdd â'r ditectif a nifer o fenwod yn cynnig bod yn feistres tŷ i Dr Watson, cyfaill a chyd-weithiwr Holmes!

Yn 1893 lladdwyd Sherlock Holmes yn y stori The Adventure of the Final Problem. Yn y stori, cwympodd Holmes a'i archelyn, Moriarty, i'r dŵr oddi ar Rhaeadr Reichenbach. Ond cymaint oedd siom y cyhoedd bu rhaid iddo atgyfodi'r cymeriad mewn stori arall gan esbonio bod Sherlock wedi ffugio ei farwolaeth. Ysgrifennodd gyfanswm o bedair nofel a 56 o straeon byrion am y ditectif.

Image caption,
Y ditectif Sherlock Holmes a'i het nodweddiadol

Sherlock Holmes heddiw

Mae'r cymeriad yn parhau i fod yn boblogaidd iawn heddiw. Ers cyhoeddi'r stori gyntaf hwnnw mae wedi ymddangos mewn llyfrau, ar y teledu, mewn ffilmiau, gemau cyfrifiadurol, dramâu radio a chyfryngau eraill. Mae actorion adnabyddus fel Benedict Cumberbatch, Robert Downey Jr a Rupert Everett wedi portreadu'r cymeriad mewn rhaglenni ar y sgrîn fach a'r sgrîn fawr. Yn wir, mae'r cymeriad Sherlock Holmes wedi cael ei bortreadu yn fwy nag unrhyw gymeriad arall yn hanes. Mae ei gyfeiriad yn Llundain, 221b Baker Street, bellach yn safle amgueddfa amdano.

Efallai bydd Sherlock Holmes, y ditectif enigmatig, yn parhau i fod yn boblogaidd am flynyddoedd i ddod. Pwy a wŷr!

A wyddost ti?

  • Enw system gyfrifiadurol y Swyddfa Gartref i ddatrys achosion yw'r 鶹Լ Office Large Major Enquiry System neu H.O.L.M.E.S.
  • Roedd Syr Arthur Conan Doyle yn gricedwr brwd, yn focsiwr ac wedi chwarae pêl-droed yn y gôl i glwb pêl-droed Portsmouth
  • Mae'r Bathdy Brenhinol wedi creu darn 50c arbennig gyda Sherlock Holmes arno i ddathlu 160 mlynedd ers geni Syr Arthur Conan Doyle
  • Roedd Syr Arthur Conan Doyle yn grediniol bod ysbrydion a thylwyth teg yn bodoli ac roedd e'n ffrindiau da gyda'r consuriwr enwog Harry Houdini
  • Doedd yr het hela ceirw rydyn ni'n cysylltu gyda'r ditectif ddim yn ymddangos yn nhestun y llyfrau o gwbl ond yr arlunydd Sidney Paget rhoddodd iddo yn y lluniau ar gyfer The Boscombe Valley Mystery

TGAU Mathemateg Rhifedd. video

Wyt ti bob tro'n colli'r bws neu'r trên? Gall y ditectif, Al Gebra, dy helpu i ddilyn amserlen yn gywir.

TGAU Mathemateg Rhifedd

TGAU Mathemateg. video

Euog neu'n ddieuog? Edrycha ar dystiolaeth fathemategol ar ffurf anhafaleddau llinol.

TGAU Mathemateg

Dysga fwy am loci gyda help Al Gebra a Jon yn yr ardd.

TGAU Mathemateg Rhifedd