鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Dydd a nos
  • Y Lleuad
  • Y planedau

Lesson content

  • Day and night
  • The Moon
  • The planets
Llinell / Line

Dydd a nos

Mae'r Ddaear yn cylchdroi ar ei hechelin wrth deithio o gwmpas yr Haul. Mae'n cymryd un diwrnod (24 awr) i'r Ddaear gylchdroi unwaith.

  • Pan rydyn ni'n wynebu'r Haul, mae'n ddydd.
  • Pan rydyn ni'n wynebu i ffwrdd o'r Haul mae'n nos.
  • Mae'n cymryd 365 diwrnod i'r Ddaear deithio o gwmpas yr Haul.

Wrth i’r Ddaear gylchdroi ar ei hechelin, mae’n achosi’r effeithiau hyn.

  • Mae'n ymddangos bod yr Haul yn symud ar draws yr awyr yn ystod y dydd - ac mae cysgodion yn symud wrth i hynny ddigwydd.

  • Mae'r Haul yn codi yn y dwyrain, mae ar ei uchaf yn yr awyr ganol dydd ac mae'n machlud yn y gorllewin.

  • Mae cysgodion yn hirach yn y bore a gyda'r nos, ac ar eu byrraf ganol dydd.

Llinell / Line

Y Lleuad

  • Mae'r Lleuad yn llawer llai na'r Ddaear.
  • Dim ond un wyneb o'r Lleuad rydyn ni’n ei weld.
  • Rydyn ni’n gweld gweddau’r Lleuad oherwydd bod goleuni o'r Haul yn adlewyrchu oddi ar y Lleuad.
  • Pan fydd y Ddaear yn union rhwng yr Haul a’r Lleuad mae'n rhwystro goleuni'r Haul rhag cyrraedd y Lleuad. Yr enw ar hyn ydy diffyg ar y Lleuad (eclips).
Llinell / Line

Y Planedau

Yr Haul yw’r seren agosaf atom ni.

Mae’r planedau mewn orbit o gwmpas yr Haul.

O’r Haul, trefn y planedau yw:

  • Mercher
  • Gwener
  • Y Ddaear
  • Mawrth
  • Iau
  • Sadwrn
  • Wranws
  • Neifion

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU