鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i fabwysiadu rôl gan ddefnyddio iaith briodol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn how to adopt a role using appropriate language.

This lesson includes:

  • one video
  • three activities
Llinell / Line

For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo

Mae Carter ac Izzie yn rhedeg stondin smŵddi. Maen nhw’n cael amrywiaeth o archebion, o’r iachus i’r rhyfedd.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • deall a defnyddio geirfa arbennig, ee mefus, llysiau, pys, moron, ffrwythau, afalau, mafon, banana, cig, cyw iâr, cig oen, cig eidion, ham, sbam, peiriant smŵddi, gwastraff
  • strwythuro brawddeg gan ddefnyddio patrymau megis, Ga'i…, Dw i’n hoffi…, Dw i’n casáu…, Dw i eisiau…
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Llusga’r geiriau i’r bocs ‘Ffrwyth’ neu ‘Ddim yn ffrwyth’.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Beth am greu dy stondin smŵddi dy hun? Fel perchennog y stondin, y cwbl sydd ei angen ydy bwrdd i ti sefyll tu ôl iddo, ond beth am greu arwydd lliwgar gyda enw'r stondin arno yn gyntaf? Efallai hefyd byddi di eisiau creu bwydlen o'r gwahanol smŵddis sydd ar gael ar dy stondin.

Gofynna i aelodau'r teulu neu ffrindiau fod yn gwsmeriaid. Defnyddia’r sgript yn y fideo i dy helpu di a'r cwsmeriaid i actio a pherfformio gwerthu a phrynu smŵddis.

Mae modd newid rôl wedyn - gofynna i rywun arall fod yn berchennog fel dy fod ti'n gallu archebu dy hoff smŵddi. Ond cofia - efallai bydd angen newid enw'r stondin a chreu arwydd newydd!

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Os oes peiriant smŵddi neu gymysgydd bwyd yn y tŷ, neu gan ffrind, beth am ofyn i oedolyn dy helpu i greu smŵddis go iawn ar gyfer gweddill y teulu neu ffrindiau.

Siŵr o fod bydd smŵddi pawb ychydig yn wahanol, felly beth am dywallt ychydig bach o bob smŵddi i mewn i wydrau glân bob tro er mwyn cael blasu pob un ohonyn nhw. Gwna'n siŵr nad oes alergedd gan neb cyn blasu dim byd.

Gelli di wedyn farcio smŵddi pawb allan o ddeg. Cofia ysgrifennu pa ffrwythau neu lysiau sydd yn y smŵddi i dy atgoffa di. Tybed pa smŵddi fydd yn ennill?

Enghraifft

EnwBlâs y smŵddiMarc allan o ddeg
Dadbanana, mefus, sudd oren7
Anti Elenafocado, sbigolys, tomato, sudd lemon4
Malalamefus, mafon, mwyar duon, mêl, iogwrt9
Llinell / Line

Video

Carter and Izzie are running a smoothie stall. They receive a variety of orders from the healthy to the bizarre.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • understand and use particular vocabulary, eg strawberries, vegetables, pea, carrot, fruits, apples, raspberries, banana, meat, chicken, lamb, beef, ham, spam, smoothie machine, waste
  • structure a sentence using patterns such as, May I have…?, I enjoy…, I hate…, I want…
Llinell / Line

Activity 1

Drag the words to the 'Fruit' (Ffrwyth) or 'Not a fruit' (Ddim yn ffrwyth) box.

Llinell / Line

Activity 2

How about creating your own smoothie stall? As the owner of the stall, all you need is a table to stand behind, but how about creating a colourful sign with the name of the stall on it first? You might also want to create a menu of the different smoothies available at your stall.

Ask members of your family or friends to be customers. Use the script in the video to help you and the customers to act and perform selling and buying smoothies.

You can then swap roles - ask someone else to be the stall owner so that you can order your favourite smoothie. But remember - you may want to change the name of the stall and create a new sign!

Llinell / Line

Activity 3

If you have a food mixer or blender in the house, or if a friend has one, ask an adult to help you make real smoothies for the rest of the family or friends.

It's most likely that everyone's smoothie will be a little different, so how about pouring a little bit of each smoothie into a clean glass every time so that you can taste each one. Make sure that no one has allergies before you taste anything.

You can then mark each smoothie out of ten. Remember to write which fruits or vegetables are in each smoothie as a reminder. Whose smoothie will win the competition?

Example

NameSmoothie tasteMarks out of ten
Dadbanana, strawberries, orange juice7
Anti Elenavocado, spinach, tomato, lemon juice4
Malalastrawberries, raspberries, blackberries, honey, yoghurt9

Here's the table in Welsh.

EnwBlâs y smŵddiMarc allan o ddeg
Dadbanana, mefus, sudd oren7
Anti Elenafocado, sbigolys, tomato, sudd lemon4
Malalamefus, mafon, mwyar duon, mêl, iogwrt9

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU