Â鶹ԼÅÄ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio geirfa briodol, gan gynnwys geiriau ac ymadroddion pwnc penodol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • pump gweithgaredd

Learning focus

Learn how to use appropriate vocabulary, including subject-specific words and phrases.

This lesson includes:

  • one video
  • five activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Llinell / Line

Fideo

Mae Rav ac Elin yn disgrifio eu harwyr teuluol, sef pêl-droediwr a pheilot.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • defnyddio geirfa benodol wrth ddisgrifio eu harwyr personol
  • deall a defnyddio ffurf y trydydd person unigol yn yr amser presennol a gorffennol
  • dysgu dau ymadrodd Cymraeg, sef 'wyneb i waered' ac 'yn wên o glust i glust'
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Wyt ti'n gallu cael hyd i'r ansoddeiriau yn y testun isod?

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Pa ymadrodd Cymraeg sy'n cael ei ddangos yn y llun isod?

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Gwylia'r fideo eto a chreu ffeil ffeithiau am y ddau arwr sy'n cael eu trafod, sef 'Arwr Elin' ac 'Arwr Rav'.

Beth am nodi rhai o'r pethau canlynol:

  • enw
  • disgrifiad o beth wnaethon nhw
  • pam eu bod yn enwog
  • gwisg
  • taldra

Cofia greu dy ffeil ffeithiau drwy ddefnyddio brawddegau llawn. Defnyddia'r trawsgrifiad o dan y fideo i dy helpu os oes angen.

Gelli di hefyd greu ffeil ffeithiau ar gyfer dy arwr dy hun.

Llinell / Line

Gweithgaredd 4

Pwy ydw i?

Beth am chwarae'r gêm 'Pwy ydw i?'

I chwarae, gofynna i ffrind neu aelod o'r teulu i feddwl am eu hoff arwr. Wedyn rhaid i ti ddyfalu pwy yw'r arwr, er enghraifft Gareth Bale.

Cei di ofyn hyd at ddeg cwestiwn gwahanol i ddyfalu pwy yw'r arwr. Cofia ofyn dim ond cwestiynau gyda'r ateb 'ydw' neu 'nac ydw'.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Wyt ti'n ddyn?
  • Wyt ti'n ddynes?
  • Wyt ti'n actor?
  • Wyt ti yn y byd chwaraeon?
  • Wyt ti'n enwog?
  • Wyt ti'n fyw?
  • Wyt ti wedi marw?
  • Wyt ti'n dod o Gymru?
  • Wyt ti'n byw yn America?
  • Wyt ti'n hen?
  • Wyt ti'n ifanc?

Ar ôl gorffen y gêm, beth am newid rôl - nawr mae angen i ti feddwl am dy arwr di ac ateb hyd at ddeg o gwestiynau.

Llinell / Line

Gweithgaredd 5

Gan ddefnyddio TGCh, beth am greu portread o un o dy arwyr ar ffurf llun? Gelli di ysgrifennu paragraff byr i gyd-fynd â'r llun os wyt ti'n dymuno. Cofia egluro pam fod y person hwn yn arwr i ti gan ddefnyddio 'achos' neu 'oherwydd' yn dy ddisgrifiad.

Video

Rav and Elin describe their family heroes, namely a footballer and a pilot.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • *use specific vocabulary when describing their personal heroes *
  • understand and use the third person singular form in the present and past tenses
  • learn two Welsh phrases, namely 'wyneb i waered' (upside down) and 'yn wên o glust i glust' (smiling from ear to ear, literally: a smile from ear to ear)
Llinell / Line

Activity 1

Are you able to find the adjectives in the text below?

Llinell / Line

Activity 2

Which Welsh phrase is being shown in the picture below?

Llinell / Line

Activity 3

Watch the video again and create a fact file about the heroes who are discussed, namely 'Elin's Hero' and 'Rav's Hero'.

You could note:

  • name
  • description of what they did
  • why they're famous
  • clothes
  • height

Remember to create your fact file by using full sentences. Use the transcript under the video to help you if need be.

You could also create a fact file for your own hero.

Llinell / Line

Activity 4

Who am I?

How about playing the game 'Who am I?'

To play, ask a friend or family member to think about their favourite hero. Then, you have to guess who the hero is, for example Gareth Bale.

You may ask up to ten different questions to guess the hero. Remember to ask only questions that have the answer 'ydw' or 'nac ydw', so that means that your question must always begin with 'Wyt ti…?'

Here are some examples:

  • Wyt ti'n ddyn? (Are you a man?)
  • Wyt ti'n ddynes? (Are you a woman?)
  • Wyt ti'n actor? (Are you an actor?)
  • Wyt ti yn y byd chwaraeon? (Are you from the world of sports?)
  • Wyt ti'n enwog? (Are you famous?)
  • Wyt ti'n fyw? (Are you alive?)
  • Wyt ti wedi marw? (Are you dead?)
  • Wyt ti'n dod o Gymru? (Are you from Wales?)
  • Wyt ti'n byw yn America? (Are you from America?)
  • Wyt ti'n hen? (Are you old?)
  • Wyt ti'n ifanc? (Are you young?)

After finishing the game, how about changing roles - now you have to think about your hero and answer up to ten questions.

Llinell / Line

Activity 5

Use ICT to create a profile picture of one of your heroes. You can write a short paragraph to go under the picture if you want. Remember to explain why this person is your hero by using 'achos' or 'oherwydd' (which both mean 'because) in your description.

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU