鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Priodweddau y defnyddiau mwyaf cyffredin rydyn ni’n eu defnyddio

Lesson content

  • The properties of the most common materials that we use
Llinell / Line

Mae gwahanol briodweddau yn gwneud defnyddiau yn addas i'w defnyddio ar gyfer gwahanol bethau.

Mae modd newid siâp gwrthrychau sydd wedi eu gwneud o rai defnyddiau drwy estyn, gwasgu, plygu a dirdroi.

Cyn i ti ddysgu am rai o’r defnyddiau cyffredin rydyn ni’n eu defnyddio heddiw, dyma dermau sy’n ein helpu ni i’w disgrifio:

  • Tryloyw - defnydd rydyn ni'n gallu gweld golau trwyddo.
  • Tryleu - defnydd rydyn ni'n gallu gweld ychydig o olau trwyddo.
  • Didraidd - defnydd dydyn ni ddim yn gallu gweld dim golau drwyddo.
Llinell / Line

Metelau

  • I'w canfod yn y ddaear, weithiau wedi'u cymysgu â cherrig.
  • Cryf, caled, gloyw, hydrin (mae modd eu morthwylio i wahanol siapiau heb eu torri ac mae modd eu hymestyn yn wifrau).
  • Mae haearn a dur yn fagnetig. Dydy’r rhan fwyaf o’r metelau eraill ddim yn fagnetig.
  • Mae rhai metelau yn ddargludyddion thermol (gwres) a dargludyddion trydanol da.
Llinell / Line

Plastigau

  • Wedi eu gwneud o olew.
  • Cryf a gellir eu gwneud i unrhyw siâp.
  • Ddim yn fagnetig.
  • Yn ynysyddion trydanol a thermol da.
  • Mae'n bosib eu lliwio.
  • Yn dryloyw, yn dryleu neu'n ddidraidd.
Llinell / Line

Gwydr

  • Wedi ei wneud drwy wresogi tywod a chemegau â'i gilydd.
  • Cryf, ond mae'n gallu malu'n ddarnau mân.
  • Fel arfer yn dryloyw.
  • Rydyn ni'n gallu creu gwahanol siapiau ohono.
Llinell / Line

Crochenwaith

  • Wedi ei wneud o glai sy'n cael ei siapio i ddechrau ac yna ei wresogi.
  • Cryf, ond mae crochenwaith wedi'i wydro yn gallu malu'n ddarnau mân.
  • Yn ddidraidd fel arfer.
  • Rydyn ni'n gallu creu gwahanol siapiau ohono.
Llinell / Line

Pren

  • Yn dod o goed.
  • Cryf, hyblyg ac yn para'n hir.
  • Yn ynysydd trydanol a thermol.
  • Rydyn ni'n ei ddefnyddio i wneud papur.
Llinell / Line

Ffabrigau

  • Wedi eu gwneud o ffibrau wedi eu gwehyddu at ei gilydd.
  • Mae rhai ffabrigau, fel gwlân, sidan a chotwm, yn naturiol (mae'r ffibr yn dod o bethau byw).
  • Mae ffabrigau naturiol yn eithaf drud.
  • O'r ffabrigau naturiol, mae gwlân yn rhoi cynhesrwydd ac mae cotwm yn eich cadw'n oer ac mae'n amsugnol (mae'n amsugno hylifau).
  • Mae rhai ffabrigau, fel polyester a neilon, wedi eu gwneud gan ddyn.
  • Mae ffabrigau wedi eu gwneud gan ddyn fel arfer yn hawdd i'w golchi a'u sychu ac yn para'n dda.
Llinell / Line

Cerrig

  • Defnydd crai y Ddaear. Maen nhw o dan y ddaear, ar draethau, mewn pridd.
  • Mae rhai cerrig fel gwenithfaen yn galed.
  • Mae rhai cerrig fel sialc yn feddal.
  • Mae rhai cerrig fel llechen yn anhydraidd i ddŵr (dydyn nhw ddim yn gadael i ddŵr fynd drwyddyn nhw).
  • Mae rhai cerrig fel tywodfaen yn hydraidd i ddŵr (maen nhw’n gadael i ddŵr fynd drwyddyn nhw).

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU