鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i adnabod dibenion gwahanol testunau, ee rhoi gwybodaeth, cyfarwyddo, esbonio

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • pedwar gweithgaredd addas

Learning focus

Learn how to identify different purposes of texts, eg to inform, instruct, explain.

This lesson includes:

  • four suitable activities

Wedi ei chreu mewn partneriaeth â .

For an English version of this lesson, scroll below.

Pam ysgrifennu cyfarwyddiadau?

Rydym yn ysgrifennu cyfarwyddiadau er mwyn esbonio sut i wneud rhywbeth.

Er enghraifft:

  • sut i gyrraedd lleoliad arbennig
  • rysáit ar gyfer coginio
  • i ddangos sut i wneud rhywbeth penodol

Pan fyddi di'n ysgrifennu cyfarwyddiadau, mae angen i'r wybodaeth fod yn glir. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod y darllenydd yn medru dilyn dy gyfarwyddiadau a chyflawni'r dasg yn hollol annibynnol.

Llinell / Line

Cyflwyniad

Cyn dechrau ysgrifennu cyfarwyddiadau, mae angen dewis teitl addas ar gyfer y dasg a rhestr o'r hyn sydd ei angen i gwblhau'r dasg. Mae rhaid i'r darllenydd ddeall y manylion yma cyn medru mynd ati i ddilyn dy gyfarwyddiadau.

Edrycha ar yr enghraifft isod, sy'n rhan o gyfarwyddiadau ar gyfer creu salad ffrwythau iachus.

Sut i wneud salad ffrwythau

Byddi di angen:

4 afal
3 banana
Cwpan o rawnwin gwyrdd neu goch
2 beren
1 plat i baratoi'r ffrwythau
2 bowlen i weini'r salad ffrwythau

Llinell / Line

Ysgrifennu cyfarwyddiadau

Ar ôl nodi'r cynhwysion, mae angen ysgrifennu cyfarwyddiadau, ar ffurf rhestr. Er enghraifft:

  1. Yn gyntaf, golcha dy ddwylo cyn cyffwrdd y ffrwythau.
  2. Golcha'r ffrwythau mewn dŵr oer.
  3. Gofynna am gymorth oedolyn i dy helpu i dorri'r ffrwythau os yw hynny'n anodd.
  4. Torra'r afalau mewn chwarteri a'u gosod ar y plat.
  5. Nesaf, agora'r bananas a'u torri yn sleisys.
  6. Ychwanega'r bananas.
  7. Torra'r pêrs yn hanneri.
  8. Ychwanega'r pêrs.
  9. I weini, gosoda'r salad ffrwythau yn y ddwy bowlen ac addurna gyda'r grawnwin.

Wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau bydd angen i ti ddefnyddio pwyntiau bwled, neu rifau, i wahanu'r camau. Mae angen prif lythyren ac atalnod llawn ar gyfer pob cam.

Llinell / Line

Rhoi trefn

Mae'n bwysig i dy gyfarwyddiadau gynnwys pob cam, yn y drefn gywir. Ni fydd rysáit, er enghraifft, yn llwyddiant os na fydd y darllenydd yn medru dilyn y camau yn eu trefn. Dychmyga sut fyddai cacen siocled yn blasu petaet ti'n anghofio cynnwys y siocled yn y cyfarwyddiadau! Mae'r geiriau isod yn ddefnyddiol i dy helpu i osod y camau yn y drefn gywir.

  • yn gyntaf
  • yn ail
  • nesaf
  • wedyn
  • yna
  • cyn
  • yn olaf

Berfau gorchmynnol

Mae berfau gorchmynnol yn bwysig ar gyfer ysgrifennu cyfarwyddiadau. Cofia taw rhywbeth sy'n cael ei 'wneud' yw berf. Mae berfau gorchmynnol yn cael eu hadnabod fel 'berfau awdurdodol' oherwydd maent yn dweud wrth bobl beth i'w wneud. Er enghraifft:

  • Torra'r afalau yn hanneri
  • Ychwanega'r bananas
  • Cymysga'r ffrwythau
  • Rho'r tegell ymlaen
  • Tro i'r dde
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Mae Martha wedi ysgrifennu cyfarwyddiadau i'w ffrind, ar gyfer gwneud smŵddi blasus, ond mae hi wedi anghofio gosod y camau mewn trefn. Beth am ailysgrifennu'r cyfarwyddiadau ar ddarn o bapur neu'n ddigidol, yn y drefn gywir?

Cofia ddefnyddio prif lythrennau ac atalnodau llawn. Bydd angen pwyntiau bwled, neu rifau, i wahanu'r camau.

Smŵddi blasus Martha

Bydd angen:
1 gwydryn coctel
300ml sudd afal
Hanner cwpan o fafon
Cwpan o fefus

Cyfarwyddiadau:

  • Arllwysa'r smŵddi i mewn i wydryn coctel ac addurno gyda mefusen.
  • Golcha'r ffrwythau mewn dŵr oer.
  • Rho'r sudd afal a'r ffrwythau gyda'i gilydd yn y cymysgydd.
  • Cymysga'r cyfan yn y cymysgydd am 30 eiliad.
  • Golcha dy ddwylo cyn paratoi'r ffrwythau.
  • Help llaw: Defnyddia'r patrwm canlynol:
  1. I ddechrau…
  2. Yn ail…
  3. Yn drydydd…
  4. ±…
  5. Yn olaf…

.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Pa eiriau isod sy'n ferfau gorchmynnol? Ysgrifenna dy atebion ar ddarn o bapur neu yn ddigidol.

  1. gosoda
  2. tro
  3. adeilad
  4. anialwch
  5. bendigedig
  6. cymysga
  7. rho
  8. hapus
  9. haul
  10. ychwanega
  • Help llaw: Cofia mai rhywbeth sy'n cael ei 'wneud' yw berf.

.

Lawrlwytha'r daflen isod gan Twinkl, sy'n cynnwys gweithgaredd ychwanegol ar gyfer berfau gorchmynnol.

Defnyddio berfau gorchmynnol
Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Lawrlwytha'r daflen isod gan Twinkl. Darllena'r cyfarwyddiadau yn y daflen, ar gyfer gwneud glôb, ac ateba'r cwestiynau yma ar ddarn o bapur neu yn ddigidol.

  1. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys teitl?
  2. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys rhestr o'r hyn sydd ei angen?
  3. Ydy'r camau mewn trefn?
  4. Oes pwyntiau bwled, neu rifau i wahanu'r camau?
  5. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys berfau gorchmynnol?
Cyfarwyddiadau - Sut i wneud glôb

.

Llinell / Line

Gweithgaredd 4

Lawrlwytha'r daflen isod gan Twinkl. Darllena'r cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud glôb eto. Y tro yma, sylwa ar y nodiadau sydd wedi eu hysgrifennu mewn lliw, gan athro, i dy helpu i ddeall yr iaith a'r atalnodi sy'n cael eu defnyddio yn y gwaith.

Cyfarwyddiadau gyda nodiadau lliw gan athro
Llinell / Line

Casgliad o adnoddau defnyddiol

1) Cardiau geiriau

Lawrlwytha'r cardiau geiriau isod gan Twinkl i dy atgoffa o'r pethau pwysig sydd angen eu cynnwys wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau.

Cofia bod rhaid cynnwys:

  1. iaith syml a chlir
  2. gwybodaeth angenrheidiol
  3. berfau gorchmynnol
  4. rhifau neu gysyllteiriau mewn trefn amser
Cardiau geiriau

2) Mat geiriau

Lawrlwytha'r mat geiriau isod gan Twinkl i dy helpu i ddewis geiriau wrth ysgrifennu cyfarwyddiadau.

Mat geiriau

3) Rhestr wirio

Lawrlwytha'r rhestr wirio yma gan Twinkl. Ar ôl i ti orffen ysgrifennu dy gyfarwyddiadau, beth am edrych eto ar y rhestr wirio i weld os wyt ti wedi cynnwys popeth sydd ei angen?

Rhestr wirio

Why write instructions?

We write instructions to explain how to do something.

For example:

  • how to get to a certain location
  • a cooking recipe
  • to show how to do something specific

When writing instructions, the information needs to be clear. This is important to ensure the reader can follow your instructions and complete the task independently.

Llinell / Line

Introduction

Before starting to write instructions, you need to pick a suitable title for the task and list what is needed to complete the task. The reader needs to be able to understand these details before they are able to follow your instructions.

Look at the example below, which is part of the instructions for making a healthy fruit salad.

Sut i wneud salad ffrwythau

Byddi di angen:

4 afal
3 banana
Cwpan o rawnwin gwyrdd neu goch
2 beren
1 plat i baratoi'r ffrwythau
2 bowlen i weini'r salad ffrwythau

How to make fruit salad

You will need:

4 apples
3 bananas
A cup of green or red grapes
2 pears
1 plate to prepare the fruits
2 bowls to serve the fruit salad

Llinell / Line

Writing instructions

After noting down the ingredients, you need to write the instructions as a list. For example:

  1. Yn gyntaf, golcha dy ddwylo cyn cyffwrdd y ffrwythau.
  2. Golcha'r ffrwythau mewn dŵr oer.
  3. Gofynna am gymorth oedolyn i dy helpu i dorri'r ffrwythau os yw hynny'n anodd.
  4. Torra'r afalau mewn chwarteri a'u gosod ar y plat.
  5. Nesaf, agora'r bananas a'u torri yn sleisys.
  6. Ychwanega'r bananas.
  7. Torra'r pêrs yn hanneri.
  8. Ychwanega'r pêrs.
  9. I weini, gosoda'r salad ffrwythau yn y ddwy bowlen ac addurna gyda'r grawnwin.

Here's a translation of the list.

  1. Firstly, wash your hands before touching the fruit.
  2. Wash the fruit in cold water.
  3. Ask an adult to help you slice the fruit if it’s difficult.
  4. Cut the apples into quarters and place them on the plate.
  5. Next, peel the bananas and cut them into slices.
  6. Add the bananas.
  7. Cut the pears in half.
  8. Add the pears.
  9. To serve, put the fruit salad in the two bowls and decorate with the grapes.

When writing instructions, you need to use bullet points, or numbers, to separate the steps. You need a capital letter at the beginning of each step and a full stop at the end of each step.

Llinell / Line

Order

It’s important that your instructions include every step, in the correct order. A recipe, for example, would not be successful if the reader couldn’t follow the steps in order. Imagine how a chocolate cake would taste if you’d forgotten to include the chocolate in the instructions! The words below are useful to help you put the steps in the correct order.

  • yn gyntaf (firstly)
  • yn ail (secondly)
  • nesaf (next)
  • wedyn (after)
  • yna (then)
  • cyn (before)
  • yn olaf (lastly/finally)

Imperative verbs

Imperative verbs are important when writing instructions. Remember that verbs are ‘doing’ words. Imperative verbs are known as ‘command verbs’ because they tell people what to do. For example:

  • Torra'r afalau yn hanneri (Cut the apples in half)
  • Ychwanega'r bananas (Add the bananas)
  • Cymysga'r ffrwythau (Mix the fruit)
  • Rho'r tegell ymlaen (Put the kettle on)
  • Tro i'r dde (Turn right)
Llinell / Line

Activity 1

Martha's written instructions for her friend to make a delicious smoothie, but she's forgotten to place the steps in the correct order. Why not rewrite the instructions on a piece of paper or digitally, in the correct order?

Remember to use capital letters and full stops. You'll need bullet points, or numbers, to separate the steps.

Smŵddi blasus Martha

Bydd angen:
1 gwydryn coctel
300ml sudd afal
Hanner cwpan o fafon
Cwpan o fefus

Cyfarwyddiadau:

  • Arllwysa'r smŵddi i mewn i wydryn coctel ac addurno gyda mefusen.
  • Golcha'r ffrwythau mewn dŵr oer.
  • Rho'r sudd afal a'r ffrwythau gyda'i gilydd yn y cymysgydd.
  • Cymysga'r cyfan yn y cymysgydd am 30 eiliad.
  • Golcha dy ddwylo cyn paratoi'r ffrwythau.

Here's the English translation of the recipe.

Martha’s scrumptious smoothie

You will need:
1 cocktail glass
300ml apple juice
Half a cup of raspberries
A cup of strawberries

Instructions:

  • Pour the smoothie into a cocktail glass and decorate with a strawberry.
  • Wash the fruit in cold water.
  • Put the apple juice and the fruit together in the blender.
  • Mix all the ingredients in the blender for 30 seconds.
  • Wash your hands before preparing the fruit.
  • Helping hand: Use the following pattern:
  1. I ddechrau… (To begin…)
  2. Yn ail… (𳦴DzԻ…)
  3. Yn drydydd… (ճ󾱰…)
  4. ±… (After that…)
  5. Yn olaf… (Lastly/Finally)

.

Llinell / Line

Activity 2

Which of the following words are imperative verbs? Write your answers on a piece of paper or digitally.

  1. gosoda (place)
  2. tro (turn)
  3. adeilad (building)
  4. anialwch (desert)
  5. bendigedig (wonderful)
  6. cymysga (mix)
  7. rho (put)
  8. hapus (happy)
  9. haul (sun)
  10. ychwanega (add)
  • Helping hand: Remember that a verb is a 'doing' word.

.

Download the sheet below by Twinkl, which includes an additional activity for imperative verbs.

(Using imperative verbs)

Defnyddio berfau gorchmynnol
Llinell / Line

Activity 3

Download the following worksheet by Twinkl. Read the instructions on the sheet, for making a globe, and answer these questions on a piece of paper or digitally.

  1. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys teitl? (Do the instructions include a title?)
  2. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys rhestr o'r hyn sydd ei angen? (Do the instructions include a list of what's needed?)
  3. Ydy'r camau mewn trefn? (Are the steps in order?)
  4. Oes pwyntiau bwled, neu rifau i wahanu'r camau? (Are there bullet points or numbers to separate the steps?)
  5. Ydy'r cyfarwyddiadau yn cynnwys berfau gorchmynnol? (Do the instructions include imperative verbs?)

(Instructions - How to make a globe)

Cyfarwyddiadau - Sut i wneud glôb

.

Llinell / Line

Activity 4

Download the sheet below by Twinkl. Read the instructions about how to make a globe again. This time, look at the coloured notes made by a teacher to help you understand the language and punctuation used in the work.

(Instructions with coloured notes by a teacher)

Cyfarwyddiadau gyda nodiadau lliw gan athro
Llinell / Line

A collection of useful resources

1) Word cards

Download the word cards below from Twinkl to remind you of the important things to include when writing instructions.

Remember to include:

  1. iaith syml a chlir (simple and clear language)
  2. gwybodaeth angenrheidiol (essential information)
  3. berfau gorchmynnol (imperative verbs)
  4. rhifau neu gysyllteiriau mewn trefn amser (numbers or conjunctions in chronological order)

(Word cards)

Cardiau geiriau

2) Word mat

Download the word mat below from Twinkl to help you choose words when writing instructions.

(Word mat)

Mat geiriau

3) Checklist

Download this checklist by Twinkl. After you've written your instructions, why not look again at the checklist to make sure you've included everything?

(Checklist)

Rhestr wirio

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU