鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga ddefnyddio sgiliau mesur i ddewis unedau metrig priodol i fesur hyd, pwysau/màs a chynhwysedd.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • un gweithgaredd

Learning focus

Learn to use measuring skills to choose appropriate metric units to measure length, weight/mass and capacity.

This lesson includes:

  • one video
  • one activity
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae pryfyn yn esbonio mesuriadau metrig.

A fly explains the metric measurements.

Nodiadau i rieni

  • Gallwn fesur hyd gan ddefnyddio’r mesuriadau metrig yma: milimetrau (mm), centimetrau (cm), metrau (m) a chilometrau (km).
  • Wrth fesur gwahanol bethau, rhaid ystyried pa uned fesur i ddefnyddio.
  • Mae 10 mm mewn cm. Mae 100 cm mewn m. Mae 1000 m mewn km.
  • Gallwn hefyd ddefnyddio mesuriadau metrig i fesur pwysau. Rydym yn defnyddio mililitrau (ml) a litrau (l) i fesur cyfaint a chilogramau (kg) i fesur pwysau.

Notes for parents

  • We can measure length using these metric units: millimeters (mm), centimetres (cm), metres (m) and kilometres (km).
  • When we measure different things, we must consider which unit is best to use.
  • There are 10 mm in a cm. There are 100 cm in a m. There are 1000 m in a km.
  • We also use metric units to measure weight. We use millilitres (ml) and litres (l) to measure volume and kilograms (kg) to measure weight.
Llinell / Line
Labeli gyda'r llythrennau - mm, cm, m, km

Rydyn ni’n defnyddio’r system fetrig i fesur hyd, pwysau neu gyfaint rhywbeth. Caiff hyd ei fesur mewn milimetrau (mm), centimetrau (cm), metrau (m) neu gilometrau (km).

The metric system is used to measure the length, weight or volume of an object. Length is measured in millimetres (mm), centimetres (cm), metres (m) or kilometres (km).

  • 1 cm = 10 mm
  • 1 m = 100 cm
  • 1 km = 1000 m
  • tua lled stwffwl yw 1 cm / 1 cm is about the width of a staple
  • tua lled gwely sengl yw 1 m / 1 m is about the width of a single bed
Labeli gyda'r llythrennau - mm, cm, m, km

Caiff pwysau ei fesur mewn gramau (g) a chilogramau (kg). Caiff cyfaint ei fesur mewn mililitrau (ml) a litrau (l).

Weight is measured in grams (g) and kilograms (kg). Volume is measured in millilitres (ml) and litres (l).

  • 1 kg = 1000 g
  • 1 l = 1000 ml
  • 1 kg yw pwysau saith afal / 1 kg is the weight of seven apples
  • 1 l yw cyfaint carton o sudd oren / 1 l is the volume of a carton of orange juice
Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Dewisa’r uned orau i fesur y gwrthrych.

Select the best unit to measure the object.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU