鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i gadw mewn rôl a chynorthwyo eraill wrth chwarae rôl.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn to keep in role and support others in role play.

This lesson includes:

  • one video
  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Llinell / Line

Fideo

Mae Zac a Zoe wrth y stondin smŵddis. Maen nhw’n gofyn am wahanol fwydydd yn eu smŵddis.

Archebu smŵddis

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • adio a thynnu rhifau syml
  • gofyn faint mae eitem yn ei gostio
  • siarad am hoff fwydydd
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Chwarae siop - dyma gyfle i chwarae rôl gyda rhywun arall yn y tŷ.

Rhaid i un person chwarae rôl y cwsmer a pherson arall gymryd rôl y perchennog. Gwna restr prisiau er mwyn gwybod pris y nwyddau amrywiol. Mae modd defnyddio'r un isod os wyt ti'n dymuno, neu greu un dy hun.

eitempris
llaeth50c
afal10c
oren15c
creision30c
siocled40c

Nawr, gofynna'r cwestiynau isod wrth chwarae rôl:

  • Ga i… os gwelwch yn dda?
  • Faint mae … yn costio?
  • Faint o newid gaf i?
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Beth wyt ti'n hoffi bwyta? Beth wyt ti'n hoffi yfed? Wyt ti'n hoffi llaeth?

Gwylia'r fideo eto a gwranda ar y cymeriadau yn siarad am eu hoff bethau.

Ar ôl gwylio'r fideo, dyma gyfle i ti ofyn y cwestiynau i rywun arall. Dechreua gyda'r gair llaeth a gofyn, Wyt ti'n hoffi llaeth? Gwna nodyn o'r ateb.

Nawr, gofynna'r un cwestiynau am yr holl bethau isod:

  • banana
  • creision
  • siocled
  • oren

Cofia wneud nodyn am bob un. Ar y diwedd, bydd gennyt ti gofnod o beth mae'r person arall yn hoffi a ddim yn hoffi.

Wedyn, newidia rôl a gadael i'r person arall ofyn y cwestiynau i ti.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Pa fwyd wyt ti'n hoffi? Tynna lun ohono a lliwia'r llun. Ysgrifenna'r gair nesa at y llun ac ysgrifenna frawddeg amdano.

Enghraifft

Siocled

siocled

Dw i'n hoffi siocled.

Gwna hyn ar gyfer pedwar o bethau eraill rwyt ti'n eu hoffi. Mae'n gallu bod yn fwyd neu'n ddiod.

Video

Zac and Zoe are at the smoothie stall. They ask for different foods in their smoothies.

Archebu smŵddis

Notes for parents

After watching the video, pupils will be able to:

  • add and subtract simple numbers
  • ask how much an item costs
  • talk about favourite foods
Llinell / Line

Activity 1

Playing shop - This is an opportunity to play a role with somebody else in the house.

One person has to play the customer and another person plays the owner. Make a price list to know the prices of various items. You can use the list below or you can create your own.

eitempris
llaeth50c
afal10c
oren15c
creision30c
siocled40c

Here's a translation of the list above:

itemprice
milk50p
apple10p
orange15p
crisps30p
chocolate40p

Now, ask these questions when you're role-playing:

  • Ga i… os gwelwch yn dda? (May I have… please?)
  • Faint mae … yn costio? (How much does … cost?)
  • Faint o newid gaf i? (How much change will I get?)
Llinell / Line

Activity 2

What do you like to eat? What do you like to drink? Do you like milk?

Watch the video. This is a chance to ask somebody else questions. Start with the word llaeth (milk) and ask, Wyt ti'n hoffi llaeth? (Do you like milk?). Make a note of the answer.

Now, ask the same questions about these items:

  • banana (banana)
  • creision (crisps)
  • siocled (chocolate)
  • oren (orange)

Remember to write down the answers. At the end, you'll have a list of what the other person likes and doesn't like.

Then, swap roles and get the other person to ask you questions.

Llinell / Line

Activity 3

Which food do you like? Draw a picture of it and colour it in. Write the word next to the picture and write a sentence about it.

Example

Siocled

siocled

chocolate

Dw i'n hoffi siocled.

I like chocolate.

Do this for another four things you like. They can be foods or drinks.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU