Â鶹ԼÅÄ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ddefnyddio sgiliau rhif er mwyn canfod symiau ffracsiynol.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • un gweithgaredd

Learning focus

Learn how to use number skills in order to calculate fractional quantities.

This lesson includes:

  • one video
  • one activity
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae rhedwr yn symleiddio ffracsiynau i gyfrifo pa mor bell y mae o'r llinell derfyn.

Nodiadau i rieni

  • Er mwyn symleiddio ffracsiwn, rhaid i ni ffeindio rhif y gallwn rannu’r rhifiadur a'r enwadur. Rhaid dy fod yn medru rhannu’r rhifiadur a’r enwadur yma gyda’r un rhif.
  • Gyda’r ffracsiwn 3/30, gallwn rannu’r rhifiadur a'r enwadur gyda 3.
  • 3 wedi ei rannu gyda 3 yw 1. 30 wedi’i rannu gyda 3 yw 10. Felly ein ffracsiwn newydd yw 1/10.
  • Gyda’r ffracsiwn 10/30, mae gan y rhifiadur a'r enwadur ffactor cyffredin, sef 10. Hynny yw, mae 10 yn mynd i mewn i 10 a 30. Felly, gallwn rannu 10 gyda 10 i gael 1. 30 wedi’i rannu gyda 10 yw 3. Ein ffracsiwn newydd yw â…“.
  • Gyda’r ffracsiwn o 18/30, mae gan y rhifiadur a’r enwadur ffactor cyffredin o 6. 18 wedi’i rannu gyda 6 yw 3. 30 wedi’i rannu gyda 6 yw 5. Felly, â…— bydd ein ffracsiwn newydd.

Notes for parents

  • To simplify a fraction, we need to be able to divide the numerator and denominator by the same number.

  • With the fraction 3/30, we can divide both these numbers by 3.

  • 3 divided by 3 is 1. 30 divided by 3 is 10. So, our new fraction is 1/10.

  • With the fraction 10/30, we can divide both these numbers by 10. 10 divided by 10 is 1. 30 divided by 10 is 3. So, our new fraction is â…“.

  • With the fraction 18/30, we can divide both these numbers by 6. 18 divided by 6 is 3 and 30 divided by 6 is 5. So, our new fraction is â…—.

Llinell / Line
Hafaliad yn dangos bod chwech dros ddeuddeg yn hafal i un dros ddau.

Symleiddio ffracsiynau

Gelli di symleiddio ffracsiwn os yw’n bosib rhannu’r rhifiadur (y rhif uwchben y llinell) a’r enwadur (y rhif o danodd) gyda’r un rhif.

Gelli symleiddio chwe deuddegfed yn un hanner, neu 1 dros 2, achos mae’n bosib rhannu’r ddau rif â 6.

Mae 6 yn mynd i mewn i 6 un waith ac i mewn i 12 ddwy waith.

Hafaliad yn dangos bod chwech dros ddeuddeg yn hafal i un dros ddau.
Llinell / Line

Gweithgaredd / Activity

Symleiddia'r ffracsiynau

Simplify the fractions

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU