鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga adnabod onglau lem ac aflem.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • dau weithgaredd

Learning focus

Learn to recognise acute and obtuse angles.

This lesson includes:

  • one video
  • two activities
Llinell / Line

Fideo / Video

Mae’r siapiau yn trafod onglau wrth fwyta pitsa.

The shapes discuss angles while eating pizza.

Nodiadau i rieni

  • Ongl sgwâr yw ongl sy’n mesur 90 gradd.
  • Ongl aflem yw ongl sy’n mesur rhwng 90 gradd a 180 gradd.
  • Ongl lem yw ongl sy’n mesur llai na 90 gradd.

Notes for parents

  • A right angle measures 90 degrees.
  • An obtuse angle measures between 90 degrees and 180 degrees.
  • An acute angle measures less than 90 degrees.
Llinell / Line

Ongl sy’n mesur tro, a hynny mewn graddau neu °. Mae 360° mewn tro llawn.

Gelli di ganfod maint ongl trwy ddefnyddio onglydd.

  • Ongl lem yw ongl sy'n llai na 90°.
  • Ongl aflem yw ongl sydd rhwng 90° a 180°.
  • Ongl atblyg yw ongl sy'n fwy na 180°.
  • Ongl sgwâr yw ongl sy'n 90° yn union.

An angle is a measure of a turn, measured in degrees or °. There are 360° in a full turn.

You can find out the size of an angle using a protractor.

  • An angle less than 90° is acute.
  • An angle between 90° and 180° is obtuse.
  • An angle greater than 180° is reflex.
  • An angle of exactly 90° is a right-angle.
Llinell / Line

Gweithgaredd 1 / Activity 1

Labela’r onglau isod.

Label the angles.

Llinell / Line

Gweithgaredd 2 / Activity 2

Ysgrifenna enw’r ongl ar gyfer y mesuriadau isod.

Write the name of the angle next to the measurements below.

  1. 40°
  2. 95°
  3. 90°
  4. 100°

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU