鶹Լ

Dysgu Gartref

Cynnwys y wers hon

  • Priodweddau solidau, hylifau a nwyon
  • Yr hyn sy’n digwydd pan fydd defnyddiau yn ymdoddi, anweddu, cyddwyso a rhewi

Lesson content

  • The properties of solids, liquids and gases
  • What happens when materials melt, evaporate, condense and freeze
Llinell / Line

Mae pob defnydd wedi'i wneud o ronynnau bach iawn, iawn sy'n cael eu dal at ei gilydd gan rymoedd.

Mae pob defnydd yn bodoli fel solid, hylif neu nwy.

Llinell / Line
  • Mewn solid mae'r gronynnau yn cael eu dal yn agos iawn at ei gilydd. Prin maen nhw'n gallu symud.
  • Dydy solidau ddim yn llifo fel hylifau. Ar y cyfan, maen nhw'n aros mewn un lle!
  • Mae solidau yn cadw eu siâp.
  • Mae solidau bob amser yn cymryd yr un faint o le. Dydyn nhw ddim yn gwasgaru fel nwyon.
Llinell / Line
  • Mewn hylif dydy'r gronynnau ddim mor agos at ei gilydd. Maen nhw'n gallu symud ychydig.
  • Mae hylifau yn llifo'n hawdd.
  • Mae hylifau yn newid eu siâp. Maen nhw'n cymryd siâp y cynhwysydd sy'n eu dal.
  • Mae hylifau bob amser yn cymryd yr un faint o le. Pan fydd hylifau yn newid siâp mae eu cyfaint yn aros yr un fath.
Llinell / Line
  • Mewn nwy mae'r gronynnau wedi eu gwasgaru. Maen nhw'n gallu symud yn hawdd.
  • Mae nwyon yn gwasgaru'n hawdd.
  • Mae nwyon yn newid eu siâp.
  • Mae'n bosibl gwasgu nwyon.
Llinell / Line
Solid, Hylif neu Nwy?
Llinell / Line

Weithiau mae dŵr yn solid - rhew.

Mae dŵr hefyd yn hylif - dŵr.

Mae dŵr hefyd yn nwy - anwedd dŵr.

Ond cofia - paid â drysu! Mae ager, fel sy'n dod o degell, yn gymysgedd o ddiferion dŵr ac anwedd dŵr. Rwyt ti'n gallu gweld y diferion dŵr - sydd yn ronynnau mân o hylif. Ond dwyt ti ddim yn gallu gweld yr anwedd dŵr - sydd yn nwy.

Llinell / Line

Gwresogi

  • Mae gwres yn newid defnydd o solid i hylif i nwy.
  • Mae solid yn ymdoddi yn hylif wrth ei gynhesu.
  • Mae hylif yn anweddu yn nwy wrth ei gynhesu. Dydy e ddim yn diflannu.
Llinell / Line

Oeri

  • Bydd tynnu gwres (oeri) yn newid defnydd o nwy i hylif i solid.
  • Mae nwy yn cyddwyso i hylif wrth ei oeri.
  • Mae hylif yn rhewi yn solid wrth ei oeri.

Mae gwlith yn ffurfio pan fydd anwedd dŵr yn yr aer yn cyddwyso. Ar noson oer mae gwlith yn gallu rhewi i ffurfio rhew.

Llinell / Line

Mae anweddu a chyddwyso yn bwysig i ailgylchu dŵr y Ddaear.

  1. Mae dŵr yn anweddu.
  2. Mae dŵr yn cyddwyso yn gymylau.
  3. Mae dŵr yn syrthio fel glaw.
  4. Mae dŵr yn llifo yn ôl i'r môr.

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU