鶹Լ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i ateb cwestiynau gan ddefnyddio'r ffurfiau cywir, ee Oes…? - Oes/Nac oes; Wyt ti…? - Ydw/Nac ydw.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • pedwar gweithgaredd

Learning focus

Learn how to answer questions using the correct formats, eg Oes…? - Oes/Nac oes; Wyt ti…? - Ydw/Nac ydw

This lesson includes:

  • one video
  • four activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • ateb cwestiynau yn gywir gan ddefnyddio ffurfiau cywir, ee Ydw/Nac ydw, Oes/Nac oes
  • adnabod ffurf negyddol a chadarnhaol i ateb y cwestiwn, ee Ydw/Nac ydw, Oes/Nac oes
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Ateba'r cwestiynau isod amdanat ti dy hun gan ddefnyddio’r ffurf gywir - Oes neu Nac oes.

  1. Oes cath gyda ti?
  2. Oes ci gen ti?
  3. Oes chwaer gyda ti?
  4. Oes brawd gen ti?
  5. Oes gwallt coch gyda ti?
  6. Oes llygaid brown gen ti?
Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Ateba'r cwestiynau isod amdanat ti dy hun gan ddefnyddio’r ffurf gywir - Ydw neu Nac ydw.

  1. Wyt ti’n hoffi chwarae pêl-droed?
  2. Wyt ti’n hoffi bwyta pitsa?
  3. Wyt ti wedi bod i Sbaen?
  4. Wyt ti'n mwynhau amser chwarae?
  5. Wyt ti wedi siarad gyda ffrind heddiw?
  6. Wyt ti'n gwylio'r teledu bob dydd?
Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Ateba'r cwestiynau isod gan ddefnyddio’r ffurf gywir.

  1. Oes siop yn agos i'r tŷ?
  2. Oes parc chwarae yn yr ardal?
  3. Oes plant yn byw drws nesaf i ti?
  4. Oes llygaid glas gan dy athro neu athrawes?
  5. Oes gwallt brown gan bennaeth yr ysgol?
  6. Wyt ti'n hoffi gwylio'r teledu?
  7. Wyt ti'n byw mewn fflat?
  8. Wyt ti'n cerdded i'r ysgol?
  9. Wyt ti'n mwynhau mynd i'r parc chwarae?
  10. Wyt ti'n hoffi dawnsio?
Llinell / Line

Gweithgaredd 4

Nawr, beth am ateb y cwestiynau o'r gweithgareddau uchod yn llawn?

Enghraifft 1

Oes ci gyda ti?

  • Oes, mae ci gyda fi.
  • Nac oes, does dim ci gyda fi.

Enghraifft 2

Wyt ti’n hoffi chwarae pêl droed?

  • Ydw, dw i’n hoffi chwarae pêl droed.
  • Nac ydw, dw i ddim yn hoffi chwarae pêl droed.

Video

Notes for parents

After watching the video, pupils will be able to:

  • answer questions correctly using correct forms, eg Ydw/Nac ydw and Oes/Nac oes (Yes/No)
  • identify negative and positive forms to answer questions, eg Ydw/Nac ydw and Oes/Nac oes (Yes/No)
Llinell / Line

Activity 1

Answer the questions below about yourself using the correct form - Oes (Yes) or Nac oes (No).

  1. Oes cath gyda ti? (Have you got a cat?)
  2. Oes ci gen ti? (Have you got a dog?)
  3. Oes chwaer gyda ti? (Have you got a sister?)
  4. Oes brawd gen ti? (Have you got a brother?)
  5. Oes gwallt coch gyda ti? (Have you got red hair?)
  6. Oes llygaid brown gen ti? (Have you got brown eyes?)
Llinell / Line

Activity 2

Answer the questions below about yourself using the correct form - Ydw (Yes) or Nac ydw (No).

  1. Wyt ti’n hoffi chwarae pêl-droed? (Do you like playing football?)
  2. Wyt ti’n hoffi bwyta pitsa? (Do you like eating pizza?)
  3. Wyt ti wedi bod i Sbaen? (Have you been to Spain?)
  4. Wyt ti'n mwynhau amser chwarae? (Do you enjoy playtime?)
  5. Wyt ti wedi siarad gyda ffrind heddiw? (Have you spoken to a friend today?)
  6. Wyt ti'n gwylio'r teledu bob dydd? (Do you watch television every day?)
Llinell / Line

Activity 3

Answer the questions below using the correct form.

  1. Oes siop yn agos i'r tŷ? (Is there a shop near the house?)
  2. Oes parc chwarae yn yr ardal? (Is there a play park in the area?)
  3. Oes plant yn byw drws nesaf i ti? (Do children live next door to you?)
  4. Oes llygaid glas gan dy athro neu athrawes? (Does your teacher (male/female) have blue eyes?)
  5. Oes gwallt brown gan bennaeth yr ysgol? (Does the headteacher of your school have brown hair?)
  6. Wyt ti'n hoffi gwylio'r teledu? (Do you enjoy watching television?)
  7. Wyt ti'n byw mewn fflat? (Do you live in a flat?)
  8. Wyt ti'n cerdded i'r ysgol? (Do you walk to school?)
  9. Wyt ti'n mwynhau mynd i'r parc chwarae? (Do you enjoy going to the play park?)
  10. Wyt ti'n hoffi dawnsio? (Do you like to dance?)
Llinell / Line

Activity 4

Now, how about answering the questions from the activities above in full?

Example 1

Oes ci gyda ti? (Have you got a dog?)

  • Oes, mae ci gyda fi. (Yes, I have a dog.)
  • Nac oes, does dim ci gyda fi. (No, I do not have a dog.)

Example 2

Wyt ti’n hoffi chwarae pêl droed? (Do you like playing football?)

  • Ydw, dw i’n hoffi chwarae pêl droed. (Yes, I like playng football.)
  • Nac ydw, dw i ddim yn hoffi chwarae pêl droed. (No, I do not like playing football.)

Hafan 鶹Լ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan 鶹Լ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU