Â鶹ԼÅÄ

Dysgu Gartref

Ffocws dysgu

Dysga sut i gadw mewn rôl a chynorthwyo eraill wrth chwarae rôl.

Mae'r wers hon yn cynnwys:

  • un fideo
  • tri gweithgaredd

Learning focus

Learn to keep in role and support others in role play.

This lesson includes:

  • one video
  • three activities

For an English version of this lesson, scroll below.

Fideo

Mae dau ffrind yn mynd i’r ffair ac yn talu i gael tro ar dair stondin wahanol.

Nodiadau i rieni

Ar ôl gwylio'r fideo, bydd disgyblion yn gallu:

  • cyfri yn hawdd o un i ddeg
  • deall y math o iaith sydd ei hangen wrth chwarae rôl gwerthu a phrynu nwyddau
Llinell / Line

Gweithgaredd 1

Gofynna i oedolyn ddangos yr holl ddarnau arian rydyn ni'n eu defnyddio i dalu am bethau yng Nghymru. Dyma'r darnau arian:

  • 1c - ceiniog / darn un geiniog
  • 2c - dwy geiniog
  • 5c - pum ceiniog
  • 10c - deg ceiniog
  • 20c - dau ddeg ceiniog
  • 50c - pum deg ceiniog
  • £1 - punt / un bunt
  • £2 - dwy bunt

Tynna lun o bob un ar ddarn o bapur, wedyn gofynna i oedolyn dy helpu i'w torri allan er mwyn creu dy arian dy hun!

Llinell / Line

Gweithgaredd 2

Beth am greu dy ffair dy hun yn y tÅ· neu yn yr ardd?

Beth am roi tedis ar un stondin? Neu efallai darnau o Lego ar stondin arall? Neu beth am gael un stondin gyda phethau coch yn unig, stondin arall gyda phethau glas yn unig ac un arall gyda lliw arall? Pa liwiau wnei di ddewis?

Cofia ddefnyddio pethau fydd ddim yn torri os ydyn nhw'n syrthio, a defnyddia bêl feddal i'w thaflu at y pethau yn dy stondin.

Faint fydd hi'n costio i roi tro ar gêm ar bob stondin? Defnyddia'r arian arbennig rwyt ti wedi ei greu i bobl gael dy dalu di.

Llinell / Line

Gweithgaredd 3

Mae pobl angen gwybod am dy ffair di! Beth am greu hysbyseb ar gyfer dy ffair?

  1. Tynna lun yn dangos beth fydd yn dy ffair di.

  2. Os wyt ti eisiau, gelli di ychwanegu geiriau i dy hysbyseb hefyd.

Dyma rai o'r geiriau gelli di eu defnyddio yn dy hysbyseb, ond croeso i ti ddefnyddio dy eiriau dy hun hefyd wrth gwrs!

  • Dewch i'r ffair
  • Mae'r ffair gorau yn y byd yma heddiw
  • Mae hwyl i gael yn y ffair
  • Stondinau lliwgar
  • Cost: £1 i ddod i mewn
  • Cost: 20c i blant / £1 i oedolion / £1 i Mam / £1 i Dad / 50c i Nain/Mamgu / 50c i Taid/Tadcu
  • Faint o'r gloch?
    • Yn dechrau am … o'r gloch
  • Ble?
    • Yn y stafell wely/llofft
    • Yn y lolfa
    • Yn y gegin
    • Yn yr ardd
  • Dewch yn llu!

Dangosa dy hysbyseb i ymwelwyr sy'n debygol o ddod i dy ffair di, a rho'r wybodaeth sydd yn yr hysbyseb iddyn nhw ar lafar, er enghraifft:

  • Wyt ti eisiau dod i'r ffair gorau yn y byd heddiw?
  • Mae hwyl i gael yn y ffair gyda stondinau lliwgar.
  • Mae'n costio punt i ddod i mewn.
  • Mae'n dechrau am ddau o'r gloch pnawn 'ma yn yr ardd.

Video

Two friends go to the fair and pay to play at three different stalls.

Notes for parents

After watching the video, students will be able to:

  • count easily from one to ten
  • understand the type of language required in role play when selling and buying goods
Llinell / Line

Activity 1

Ask an adult to show you all the different coins of money that we use to pay for things in Wales. Here they are in Welsh:

  • 1c - ceiniog / darn un geiniog
  • 2c - dwy geiniog
  • 5c - pum ceiniog
  • 10c - deg ceiniog
  • 20c - dau ddeg ceiniog
  • 50c - pum deg ceiniog
  • £1 - punt / un bunt
  • £2 - dwy bunt

Here's an English translation:

  • 1p - penny / one pence piece
  • 2p – two pence
  • 5p – five pence
  • 10p – ten pence
  • 20p – twenty pence
  • 50p – fifty pence
  • £1 – pound / one pound
  • £2 – two pounds

Draw a picture of each one on a piece of paper, then ask an adult to help you cut them out to create your own money!

Llinell / Line

Activity 2

How about creating your own fair in your house or garden?

How about putting teddies on one stand? Or perhaps pieces of Lego on another stand? Or, how about having one stand for red things only, another stand for blue things only and another stand for a different colour? Which colour will you choose?

Remember to use objects that won’t break if they fall. and use a soft ball to throw at the items on your stall.

How much will it cost to play a game on each stand? Use the money that you have made for people to pay you.

Llinell / Line

Activity 3

People need to know about your fair. How about making a flyer to advertise your fair?

1. Draw a picture showing what will be in your fair.

2. You can include words in your flyer too, if you wish.

Here are some words you could use in your advertisement, but of course you are welcome to use your own words too!

  • Dewch i'r ffair - Come to the fair
  • Mae'r ffair gorau yn y byd yma heddiw - The best fair in the world is here today
  • Mae hwyl i gael yn y ffair - The fair is lots of fun
  • Stondinau lliwgar - Colourful stalls
  • Cost: £1 i ddod i mewn - Cost: £1 entry
  • Cost: 20c i blant / £1 i oedolion / £1 i Mam / £1 i Dad / 50c i Nain/Mamgu / 50c i Taid/Tadcu - Cost: 20p for children / £1 for adults / £1 for Mam / £1 for Dad / 50p for Gran / 50p for Grandad
  • Faint o'r gloch? - What time?
    • Yn dechrau am … o'r gloch - Starts at … o’clock
  • Ble? - Where?
    • Yn y stafell wely/llofft - In the bedroom
    • Yn y lolfa - In the lounge
    • Yn y gegin - In the kitchen
    • Yn yr ardd - In the garden
  • Dewch yn llu! - Come in your droves! (literal meaning)

Show your flyer to prospective visitors, and tell them the information that's on your flyer, for example:

  • Wyt ti eisiau dod i'r ffair gorau yn y byd heddiw? - Do you want to come to the best fair in the world today?
  • Mae hwyl i gael yn y ffair gyda stondinau lliwgar. - The fair is lots of fun with colourful stalls.
  • Mae'n costio punt i ddod i mewn. - It costs a pound to come in.
  • Mae'n dechrau am ddau o'r gloch pnawn 'ma yn yr ardd. - It starts at two o’clock this afternoon in the garden.

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Gwyddoniaeth, Saesneg, Hanes a mwy - mae popeth yma i ti

Hafan Â鶹ԼÅÄ Bitesize

Cynnwys y tymor hwn

Fideos, cwisiau a gweithgareddau i dy gefnogi yn ystod y tymor hwn

Cynnwys y tymor hwn

TGAU

Canllawiau dysgu i'r rhai ym mlwyddyn 10 ac 11

TGAU