Â鶹ԼÅÄ


Cyn y canlyniadau:

  • cofrestra ar gyfer gwasanaeth UCAS Direct Contact Service
  • mae linc i hwn ar unrhyw negeseuon e-bost rwyt ti wedi eu derbyn gan UCAS
  • mae hyn yn golygu bydd UCAS yn rhannu dy wybodaeth gyda'r holl brifysgolion fydd yn cynnig lle drwy'r system glirio
  • mi fydd prifysgolion yn cysylltu gyda ti ar ddydd Iau os oes ganddynt ddiddordeb cynnig lle i ti
  • fydd ddim rhaid i ti dderbyn unrhyw gynnig
  • galli di ddechrau edrych o ddechrau mis Awst am lefydd fydd ar gael drwy'r system glirio
  • mae rhestr o'r cyrsiau sydd ar gael ar wefan UCAS ac ar wefan pob prifysgol

Pan fyddi di'n mynd i nôl dy ganlyniadau, gwna’n siŵr bod y canlynol gen ti:

  • rhif cais UCAS
  • enw a chod dy gyrsiau yn dy ddewis cyntaf ac ail ddewis
  • dy ganlyniadau i gyd, gan gynnwys canlyniadau UG llynedd
  • cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn prifysgolion dy ddewis cyntaf ac ail ddewis
  • copi o dy ffurflen UCAS a dy ddatganiad personol
  • bod 100% o bŵer ar dy ffôn

Heb gael y canlyniadau roeddet yn ei obeithio?

  • Os nad wyt ti'n llwyddiannus yn dy ddewisiadau prifysgol, mi fyddi di’n derbyn neges dy fod yn gymwys i fynd drwy’r system glirio.
  • Wyt ti’n agos iawn at y graddau roeddet ti eu hangen?
  • Yw hi'n werth gofyn i CBAC ail-farcio papur?
  • Mae modd talu ffi i gael papur wedi ei ail-farcio'n gyflym.
  • Yn aml, bydd prifysgol yn cadw lle ar agor ar yr amod dy fod yn cael canlyniad cadarnhaol ar ôl ail-farcio.
  • Rhaid gwneud cais am hyn drwy'r ysgol.

Y system glirio

  • Os yw prifysgolion dy ddewis cyntaf a dy ail ddewis wedi dy wrthod, mae modd mynd drwy'r system glirio i ddod o hyd i le newydd.
  • Os wyt ti yn y system glirio, bydd botwm yn ymddangos ar dy 'UCAS Track' ynghyd â rhif clirio.
  • Bydd gen ti fynediad at bob cwrs sydd ar gael.
  • Bydd yn bwyllog – does dim brys. Mae'n benderfyniad rhy bwysig i'w wneud yn fyrbwyll.
  • Chwilia am gyrsiau o ddiddoreb, yna ffonia'r brifysgol.
  • Paid ag e-bostio – bydd y prifysgolion yn rhy brysur i ymateb. Mynega ddiddordeb.
  • Ti - nid athro na rhiant – bydd angen ffonio.
  • Bydd yn barod i ateb cwestiynau – dyna pam bydd hi'n ddefnyddiol i gael copi o dy ddatganiad personol wrth law.
  • Cofia fod y prifysgolion dy angen di hefyd – paid â meddwl eu bod yn gwneud ffafr â ti bob tro.
  • Paid â neidio ar y cynnig cyntaf – cofia fod 50,000 o lefydd yn cael eu hennill drwy’r system glirio bob blwyddyn.
This is a decorative purple line to separate and organise content on the page.

Mwy fel hyn

Meddwl ar Waith

Cynnwys i gefnogi'r rhai sy'n adolygu ac yn sefyll arholiadau eleni.

Meddwl ar Waith