PiCoS yw’r system fewnol newydd sbon sy’n cyfuno’r prosesau cynnig a chomisiynu cynnwys Radio a Theledu mewn un lle. Mae’r system wedi cael ei theilwra i wella cydweithio creadigol, i barhau i ddarparu cynnwys effeithiol i gynulleidfaoedd ac i wneud y broses o greu cynnwys yn fwy effeithlon a chydweithredol i bawb dan sylw o’r dechrau i’r diwedd.
Pryd fydd PiCoS yn fyw?
Os ydych chi’n cynnig syniadau ar gyfer Teledu, bydd PiCoS yn cymryd lle Â鶹ԼÅÄ Pitch ddydd Llun 11eg Mawrth 2024. Y tro olaf i chi allu cynnig syniadau drwy Pitch fydd dydd Gwener 8fed Mawrth 2024, ar ôl hynny bydd Pitch yn cau a bydd pob cynnig yn cael ei symud i system PiCoS.
Os ydych chi’n cynnig syniadau ar gyfer sain, bydd PiCoS yn fyw ar gyfer rowndiau sain newydd o ddydd Llun 1af Ebrill 2024 ymlaen ar sail rhwydwaith. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y briff comisiynu ar y wefan comisiynu radio i gael gwybod pa system dylech chi fod yn ei defnyddio, neu cysylltwch â picos.support@bbc.co.uk os nad ydych chi’n siŵr.
Defnyddio PiCoS
Mae modd cyrraedd PiCoS drwy Â鶹ԼÅÄ Login. Os oes gennych chi gyfrif Â鶹ԼÅÄ Login yn barod, fydd ddim angen i chi ei osod eto a byddwch yn cael cyfarwyddiadau ar sut mae defnyddio’r system newydd. Efallai eich bod wedi defnyddio Â鶹ԼÅÄ Login i ddefnyddio systemau fel MyDevelopment neu’r Compliance Manager.
Os nad oes gennych chi gyfrif Â鶹ԼÅÄ Login eto, byddwch yn cael neges e-bost o no-reply.bbclogin@bbc.co.uk a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau i greu un. Mae’n werth taro golwg yn eich ffolderi sbam neu sothach os na fyddwch yn cael y neges hon. Ar ôl i chi greu cyfrif Â鶹ԼÅÄ Login byddwch yn cael neges e-bost arall pan fyddwch wedi cael mynediad at PiCoS. Os byddwch chi angen help i greu eich cyfrif Â鶹ԼÅÄ Login mae rhagor o ganllawiau ar gael yma.
Fydd unrhyw gyfrif Pitch neu Proteus sydd heb gael ei ddefnyddio yn ystod y 2 flynedd diwethaf ddim yn cael ei fudo i PiCoS yn awtomatig. Os na fyddwch chi’n cael neges e-bost a’ch bod angen defnyddio PiCoS, cysylltwch â picos.support@bbc.co.uk.
Mudo Data
Bydd yr holl gynigion sy’n cael eu cyflwyno cyn y dyddiad mudo yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i PiCoS. Bydd cyflenwyr a defnyddwyr gweithredol hefyd yn cael eu mudo mewn da bryd ar gyfer y lansiad. Ar ôl i chi gael mynediad at PiCoS, edrychwch dros wybodaeth eich cwmni i sicrhau bod yr wybodaeth yn gyfredol. Bydd eich gweinyddwr cyflenwr yn gallu gwneud hyn yn ardal weinyddol y cyflenwr yn PiCoS.
Hyfforddiant a Chymorth
Mae PiCoS yn reddfol ac yn hawdd ei ddefnyddio. Bydd cardiau cymorth a fideo hyfforddi ar gael i’ch helpu wrth i chi ddechrau arni yn PiCoS. Byddwn yn rhannu manylion am sut mae cael gafael ar y rhain cyn y lansiad.
Unrhyw gwestiynau?
Byddwn yn cysylltu â’r holl ddefnyddwyr gweithredol cyn y lansiad gyda’r newyddion diweddaraf. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ychwanegol, cysylltwch â ni yn picos.support@bbc.co.uk.